Daeth tîm o arbenigwyr a gwirfoddolwyr ynghyd yn ddiweddar trwy Gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau gan dynnu sylw at y ffaith bod mwy o olion gwaith Neolithig ar y bryniau uwchlaw Llanfairfechan a Phenmaenmawr na’r disgwyl.

Cyfrannodd dros 170 o fynychwyr eu hamser i’r prosiect Tirwedd Bwyeill Neolithig dros 16 diwrnod yn yr Hydref. Roedd rhain yn cynnwys gwirfoddolwyr, aelodau o Glwb Archaeolegwyr Ifanc a disgyblion Ysgol Pant y Rhedyn, ac fe wnaethynt oll helpu i gloddio’r ucheldir. Hoffem ddiolch i’r amaethwr lleol, Gareth Wyn Jones, am ei ganiatâd i gael gweithio ar ei dir. Yn ogystal, cynhaliwyd dwy daith gerdded, gyda’r archaeolegwyr yn eu harwain, er mwyn trafod y darganfyddiadau ar ddiwedd y cyfnod cloddio.

Roedd y bryniau hyn yn rai o bwys tua 5,500 o flynyddoedd yn ôl. Rhain oedd y ffynhonellau mwyaf ond un o bennau bwyeill cerrig ym Mhrydain. Defnyddiwyd y bwyeill a grewyd yma ar draws Cymru a Lloegr, gan ymestyn yr holl ffordd i lawr i’r Dwyrain Eingl a Chernyw.

Nid yn unig fod y pennau bwyeill yma’n gyfarpar ar gyfer gwneud llecynnau agored yn y coedwigoedd ar draws y wlad, ond roedden nhw hefyd yn symbolau o bŵer a dylanwad. Aeth y gwirfoddolwyr ati i gloddio pyllau prawf i ridyllu’r pridd i chwilio am olion ac mae hyn yn dangos fod gwneuthuriad y bwyeill ar raddfa llawer helaethach ac amrywiol nag y dychmygwyd. Ymhob un o’r pyllau prawf hyn daethpwyd o hyd i dystiolaeth o waith cerrig Neolithig ar ffurf naddion a oedd yn torri’n dalpiau oddi ar y garreg wrth siapio pennau’r bwyeill, yn ogystal â’r bwyeill a gafodd eu taflyd, a elwir yn ‘brasffurfiau’. Roedd un brasffurf o ddiddordeb arbennig; yn hytrach na’r siâp arferol, roedd y brasffurf yma’n gul, ac mae hi’n debyg mai bwriad y garreg yma oedd i ymddwyn fel caib tenau neu gŷn.

Mae Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn gynllun pum mlynedd gwerth £4 miliwn, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a dros 20 o bartneriaid. Arweinir y prosiect Tirwedd Bwyeill Neolithig gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Penmaenmawr, gyda chyllid ychwanegol gan Cadw. Bydd gwaith maes a chyfleoedd gwirfoddoli pellach gyda’r prosiect Tirwedd Bwyeill Neolithig yn codi ar ddiwedd yr Haf/dechrau Hydref, 2022.

 

Dywedodd Hannah Ibbotson, gwirfoddolwr ar y prosiect:
‘Ymunais â’r prosiect heb unrhyw wybodaeth na chefndir archaeolegol ac erbyn diwedd y diwrnod cyntaf roeddwn yn gofyn am gael aros yn hirach er mwyn dod o hyd i fwy o ddarganfyddiadau Neolithig! Roedd cael eistedd ble eisteddodd person Neolithig i greu bwyell yn brofiad teimladwy iawn a byddaf yn ei drysori am byth (esgusodwch y ‘pun’!). Roedd pawb mor gyfeillgar a croesawgar, doeddwn i methu aros i fynd yn ôl bob dydd.’

Dywedodd Jane Kenney, Archaeolegydd o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd:
‘Mae ein darganfyddiadau hyd yma wedi dangos bod y gwaith creu bwyeill yn llawer helaethach na’r disgwyl; nid oedd yn cael ei gyfyngu i’r ffynonellau cerrig ond yn hytrach roedd y gwaith yn digwydd ar draws y tirwedd.’

Dywedodd John Roberts, Archaeolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
‘Mae’r prosiect Bwyeill yn gwbl ddibynnol ar y gwirfoddolwyr gwych sy’n gwneud y gwaith cloddio, cofnodi ac agweddau eraill ar y gwaith. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran. Roedd yn dîm gwych ac yn bleser cyfarfod a gweithio gyda llawer o bobl a oedd mor frwdfrydig. Ni fyddai’r prosiect yn bodoli hebddo’ chi!’