Angerdd am y Carneddau

Mae sawl cenhedlaeth wedi etifeddu ymdeimlad o angerdd dros y Carneddau; boed hynny’n deillio o weithio ar y tirwedd o fewn y byd amaeth a’r diwydiant chwarelyddol neu beidio.

Mae Prosiectau Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn adrodd a chofnodi enwau lleoedd, diarhebion, traddodiadau amaethyddol a diwylliannol, atgofion pobl a hanesion lleol, oll er mwyn sicrhau bod treftadaeth ddiwylliannol unigryw y Carneddau yn cael ei arbed. Mae’r cynllun wedi bod yn gweithio gyda grwpiau cymunedol o amgylch y Carneddau i ddatblygu prosiectau sy’n dathlu’r tirwedd trwy gyfrwng celf, llenyddiaeth a chwedlau. Dilynwch y ddolen isod i ddarganfod mwy am ein prosiectau Treftadaeth Ddiwylliannol.

Prosiectau Treftadaeth Ddiwylliannol
local Carneddau farmers preparing for the gathering

Amaethyddiaeth

Mae cyswllt trigolion y Carneddau ag amaethyddiaeth yn un sy’n dyddio’n ôl dros y canrifoedd. Mae’r traddodiad cymunedol hynafol o hel da byw oddi ar y mynyddoedd yn rywbeth sy’n parhau hyd heddiw. Mae amaethyddiaeth wedi clymu cymunedau’r Carneddau gyda’u gilydd dros amser, boed hynny wrth hel, cneifio neu nodi defaid.

Darllenwch fwy am Amaethyddiaeth y Carneddau

Llenyddiaeth a Barddonieth

Mae cymeriad, prydferthwch a golygfeydd godidog mynyddoedd y Carneddau wedi ysbrydoli sawl llenor a bardd gan gynnwys John T. Jôb a ysgrifennodd bennill o’i gerdd enwog, Ffarwel i Eryri, er cof am Gwm Pen-llafar cyn iddo ymfudo i Dde Cymru.

Yn gyferbynniol i geinder y mynyddoedd, seiliodd Caradog Prichard, y bardd a’r nofelydd o Fethesda, ei nofel eiconig, Un Nos Ola Leuad, ar galedwch yr amgylchedd a’r gymuned.

Ysgrifennodd Hugh Derfel Hughes ‘Llawlyfr Carnedd Llewelyn’ ym 1864 – y cyntaf o’i fath mewn unrhyw gyfrwng iaith.

 

Y Mynyddoedd

Yn ôl pob sôn fe enwyd rai o fynyddoedd y Carneddau ar ôl Tywysogion a Rheolwyr Gwynedd o’r drydedd ganrif ar ddeg.

  • Gelwir Carnedd Dafydd ar ôl Dafydd ap Llewelyn, Tywysog Gwynedd ac un o feibion Llewelyn Fawr neu ar ôl Dafydd ap Gruffydd un o wyrion Llewelyn Fawr.
  • Gelwir Carnedd Llewelyn ar ôl Llewelyn ap Iorwerth (Llewelyn Fawr) neu ar ôl Llewelyn ap Gruffydd (Llewelyn ein Llyw Olaf).
  • Gelwir Yr Elen ar ôl Eleanor de Montfort, gwraig Llewelyn ap Gruffydd.

 

Pen Yr Ole Wen overlooking Glyderau mountain range and Cwm Idwal nature reserve
sheep folds in the Carneddau
Datganiad o Arwyddocâd

Dysgwch fwy am Dreftadaeth Ddiwylliannol y Carneddau. Lawrlwythwch y ddogfen isod.

 

Datganiad o Arwyddocâd