Diogelu Henebion Cofrestredig

Mae pobl wedi dylanwadu ar dirweddau’r Canreddau ers dros 6,000 o flynyddoedd. Rydym yn lwcus o’r ffaith mai cerrig oedd prif ddeunydd adeiladu pobl dros y canrifoedd, felly mae sawl nodwedd wedi goroesi. Gellir ‘darllen’ agweddau o hanes y Carneddau trwy’r olion sydd dal yn weladwy ar y tirwedd.

Carneddau Projects Diagram
Diogelu Henebion Cofrestredig

Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn arwain tri prosiect a fydd yn helpu diogelu henebion cofrestredig a deall mwy am sut roedd pobl cynhanesyddol yn byw ac yn gweithio ar y tirwedd. Dysgwch fwy am ba henebion cofrestredig sydd wedi’u darganfod ar y Carneddau isod.

Map Henebion Cofrestredig
Oeddech chi'n gwybod?

Nid henebion cofrestredig yn unig sy’n ddiddorol ar y Carneddau, mae yna lawer o nodweddion pwysig sydd heb gael eu cofrestru. Mae’r safleoedd archeolegol yma’n cyfuno i adrodd stori gyfoethog o’r tirwedd. Mae yna dros 4,000 o nodweddion gwahanol ar y Carneddau sydd wedi’u cofnodi ar Gofnod yr Amgylchedd Hanesyddol sy’n cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, un o bartneriaid y Cynllun. Gallwch weld y cofnodion ar wefan Archwilio.

Gwefan Archwilio
Carnedd y Ddelw - Copyright Abbie N Edwards
Datganiad o Arwyddocâd

Dysgwch fwy am Amgylchedd Hanesyddol y Carneddau wrth lawrlwytho’r ddogfen isod.

Datganiad o Arwyddocâd