Dysgu, profiadu, gofalu ac amddiffyn.

Mae ein ystod eang o brosiectau yn golygu y gall gwirfoddolwyr gael mynediad i hyfforddiant ar draws amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cael gwared ar rywogaethau ymledol, hyfforddiant porth lidar, adnabod hadau a chynnal meithrinfeydd coed, creu dolydd a’u cynnal a’u cadw, yn ogystal â chyfri a monitro Brain Coesgoch, a hyfforddiant hanes llafar/cyfweld. Drwy rannu’r  wybodaeth yma, fe fydd y gymuned leol wedi datblygu sgiliau i barhau gofalu am y tirwedd yma wedi’r cynllun ddod i ben.

Prentisiaeth y Carneddau

Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau wedi cynnig prentisiaethau 12 mis yn flynyddol am 3 blynedd i unigolion ddysgu am gadwraeth amgylcheddol a threftadaeth y Carneddau gan gynnig profiad ymarferol. Roedd hyn yn cynnwys y cyfle i weithio ochr yn ochr â llawer o sefydliadau ein partneriaid, gan ennill cymhwyster Cadwraeth Amgylcheddol Lefel 2 gyda Choleg Cambria yn ogystal.

Mae’r ceisiadau prentisiaethau yn awr ar gau yn dilyn llwyddiant ein tri prentis; Eleri, Sophie a Thomas.

Apprentice undertaking traditional hay meadow cutting, Summer 2021
Dewch i adnabod prentis 2021/22 - Eleri Turner

Cymerwch olwg ar ein tudalen ‘Gair gan y Prentis’ i glywed, yn ei geiriau ei hun, am yr hyfforddiant, y profiadau a’r wybodaeth a gafodd Eleri yn ystod ei phrentisiaeth.

Darllenwch fwy...
Carneddau Landscape Partnership Apprentice holding fungus Autumn 2022
Dewch i adnabod prentis 2022/23 - Sophie Davies

Cymerwch olwg ar ein tudalen ‘Gir gan y Prentis’ i glywed, yn ei geiriau ei hun, am yr hyfforddiant, y profiadau a’r wybodaeth a gafodd Sophie yn ystod ei phrentisiaeth.

Darllenwch fwy...
Gorse clearance event with volunteers on Moel Faban
Cyfleoedd Hyfforddiant

Ochr yn ochr â nifer o’n gweithgareddau gwirfoddoli, mae gennym hefyd opsiynau hyfforddiant ar gael mewn cydweithrediad â Chymdeithas Eryri.

Darganfod mwy
Gorse clearing from Archaeological monuments at Moel Faban
Ydych chi'n gofalu am y Carneddau'n barod?

Efallai y gallwn helpu gyda phethau fel dod o hyd i gyllid, hyfforddiant, offer ac adnoddau, cysylltu a rhwydweithio ag eraill a rhoi chymorth a chyngor. Cysylltwch â ni er mwyn darganfod mwy.

Grantiau Cymunedol y Carneddau
Neolithic Axes - test pit excavation with local school children and Senior Archaeologist Jane Kenny from Gwynedd Archaeological Trust
Gwirfoddolwch gyda ni

Mae llawer o’n prosiectau yn cynnwys cyfleon ar gyfer gwaith gwirfoddol. Cysylltwch os y gallwch chi sbario peth o’ch amser i’n cefnogi.

Cysylltwch i ddarganfod mwy