Beth yw treftadaeth naturiol?

Mae treftadaeth naturiol yn cyfeirio at yr holl nodweddion naturiol mewn tirwedd. Mae hyn yn cynnwys daeareg yr ardal, dŵr, pridd, planhigion, anifeiliaid, a’r amrywiaeth o gynefinoedd ac ecosystemau y maent yn trigo ynddynt.

Mae’r Carneddau yn gartref i doreth o fywyd gwyllt a gellir diolch i’r amrywiaeth o nodweddion daearegol am fioamrywiaeth gyfoethog yr ardal – o’r copaon garw i’r cymoedd cysgodol a phopeth rhyngthynt.

Mae’r cynefinoedd sy’n bodoli yma yn amrywio o fryniau tonnog o weundir, glaswellt a mawndir i goetiroedd brodorol, llynnoedd, afonydd, clogwyni uchel, a chopaon eiconig y Carneddau gan gynnwys Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd. O achos y cynefinoedd arbennig yma, mae swmp o’r Carneddau wedi cael ei ddynodi fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn Ardal o Gadwraeth Arbennig (ACA) ac mae pedair Gwarchodfa Natur Genedlaethol yma’n ogystal.

Yn sgil newid hinsawdd, addasiadau mewn rheolaeth tir, pwysau dynol a rhywogaethau ymledol, mae’r amgylchedd naturiol yn wynebu cryn bwysau yn yr oes sydd ohoni. Mae Partneriaid Cynllun Tirwedd y Carneddau yn cydweithio’n ddygn i fynd i’r afael â’r heriau hyn er mwyn ceisio creu amgylchedd iach a ffyniannus i bobl ac i natur.

Craig yr Ysfa from Pen yr Helgi Du

Darllenwch am y cynefinoedd isod i ddod o hyd i’r holl fywyd gwyllt sy’n trigo ar y Carneddau

Rhostir a Glaswelltiroedd

Mae rhostir a glaswellt yn gorchuddio cynefinoedd mwyaf ardal y Carneddau ac maent wedi’u siapio gan bobl hyd at 6,000 o flynyddoedd yn ôl! Mae’r cynefinoedd yma’n cynnal amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt ac mae angen rhoi arferion rheoli tir ar waith er mwyn eu gwarchod.

Mae’r adar sy’n ymgartrefu ar y Carneddau yn cynnwys yr Ehedydd a Bwyalchen y Mynydd sy’n ymfudo o Ogledd Affrica.

Dysgwch fwy am y Frân Goesgoch sy’n lletya ar y cynefinoedd yma trwy ddilyn y ddolen isod.

Prosiect Y Frân Goesgoch
flower rich meadow
Ffriddoedd a Dolydd

Ffridd yw’r enw a elwir ar y cynefin ymylol diwylliannol rhwng yr ucheldiroedd a’r iseldiroedd ble y gall ddod o hyd i ddolydd hefyd. Y rhain sy’n cynnal adar prin yn yr ardal gan gynnwys Llinos y Mynydd.

Dysgwch fwy am ein prosiect Adfer Dolydd isod.

Prosiect Adfer Dolydd
peatland restoration llwytmor
Mawndiroedd

Fel ecosystemau carbon-gyfoethog, mae mawndiroedd yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd oherwydd ei allu i storio symiau enfawr o garbon.

Mae mawndiroedd iach yn gafael mewn CO2 o’r atmosffer trwy ffotosynthesis. Ni ellir  planhyigion sy’n tyfu ar fawndiroedd ddadelfennu’n llawn o dan amodau gwlyb. Mae hyn yn golygu nad oes carbon yn cael ei ryddhau i’r atomsffer a’i droi yn CO2;  sy’n fuddiol dros ben.

Mewn mawndiroedd, mae’r amodau tirlawn yn arafu dadelfenniad planhigion i’r fath raddau ble mae planhigion marw yn hel i ffurfio mawn. Caiff y carbon a amsugwyd y planhigion o’r atmosffer ei storio yn y priddoedd mawnog sy’n helpu lliniaru effaith argyfwng newid hinsawdd.

Dysgwch fwy am ein prosiect Adfer Mawndiroedd.

Prosiect Adfer Mawndiroedd
Cliff faces in the Carneddau with a lakeside in the foreground
Llynnoedd, Afonydd a Nentydd

Mae’r Carneddau yn gartref i dros 25 o lynnoedd a chronbyllau sy’n darparu cynefin i lawer o bysgod a phlanhigion dyfrol prin, yn ogystal â bod yn ffynonellau dŵr hanfodol.

Darllenwch am ein prosiect Plannu ar Lannau Afonydd sy’n ceisio gwella ansawdd dŵr a iechyd afonydd a lleihau erydiad tir a’r perygl o lifogydd.

Prosiect Plannu ar Lannau Afonydd
Rowan Tree seed collecting in Nant Ffrancon
Gwrychoedd, Coed a Choetiroedd

Caiff yr amrywiaeth mwyaf o eang o fioamrywiaeth ei weld gan amlaf mewn coetiroedd. Mae gan y Carneddau sawl coetir frodorol hynafol a choed aeddfed.

Darllenwch fwy am ein prosiectau plannu coed dwysedd isel, gwasgaredig, cynaliadwy ac adfer gwrychoedd trwy ddilyn y ddolen isod.

Prosiectau Gwrychoedd, Coed, a Choetiroedd
Cliff faces within the Carneddau
Clogwyni a Phlanhigion Prin

Mae gweithredoedd Oes y Rhew wedi gadael ei ôl ar y Carneddau, gan gynnwys amrywiaeth drawiadol o glogwyni serth. Mae’r rhain yn gartref i nifer o blanhigion arctig-alpaidd prin sy’n guddiedig ac yn anodd i ran fwyaf o bobl ac anifeiliaid eu cyrraedd. Mae’r planhigion yma’n cynnwys Mwsog y Moelydd, Heboglys a’r eiconig, Lili’r Wyddfa.

Darllenwch am y gwaith y mae rhai o’n Partneriaid yn ei wneud i warchod rhywogaethau sydd o dan fygythiad.

Partneriaeth Natur am Byth
Montane Heath habitat at Carnedd Dafydd
Rhostir y Mynydd

Gellir dod o hyd i Rostir y Mynydd ar gopaon uchaf y Carneddau ac mae’n cynnwys planhigion tebyg i’r rhai a geir yn yr Arctig. Mae hynny oherwydd ei fod yn grair o orffennol rhewlifol hynafol y Carneddau. Er gwaethaf yr amgylchedd garw, mae amrywiaeth syfrdanol o rywogaethau i’w gweld yma.

Darllenwch am ein prosiect ar Adfer Rhostir Mynyddig.

Prosiect Rhostir y Mynydd
A red billed Chough in flight
Datganiad o Arwyddocâd

Dysgwch fwy am gynefinoedd a rhywogaethau’r Carneddau wrth lawrlwytho’r ddogfen isod.

Datganiad o Arwyddocâd