Helpu i ddarganfod, diogelu a dathlu'r Carneddau.

Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn gynllun 5 mlynedd o hyd (2020-2025) a gefnogir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Caiff y cynllun ei gynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac mae dros 20 o sefydliadau gwahanol yn cydweithio i geisio gwarchod treftadaeth naturiol a diwylliannol mynyddoedd a chymoedd y Carneddau.
Ymgysylltu â phobl a chymunedau
Rydym yn helpu pobl a chymunedau o amgylch y Carneddau i gysylltu â’r mynyddoedd, wrth eu haddysgu am natur, hanes, sut mae pobl wedi siapio'r tirwedd, a'r ffyrdd y mae'r tirwedd wedi'n siapio ni.
Diogelu rhinweddau arbennig
Mae'r Carneddau'n llawn bywyd gwyllt ac yn dew o hanes. Ein nod yw gwarchod yr amgylchedd naturiol, cael gwell dealltwriaeth a rhannu'r ffyrdd y mae pobl wedi defnyddio'r Carneddau a byw yma dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd.
Dathlu treftadaeth fyw
Rydym eisiau adrodd hanes y mynyddoedd trwy rannu gwybodaeth ddiwylliannol, o lên gwerin i arwyddocâd cofgolofnau archeolegol, dathlu traddodiadau lleol, sicrhau fod enwau lleoedd cynhenid yn parhau i gael ei defnyddio a chofnodi straeon pobl cyn iddynt fynd yn angof.

Ble rydym ni’n gweithio?

Loc
Beth yr ydym ni'n wneud?

Mae’r cynllun wedi’i rannu’n 22 prosiect sydd wedi’u hymrannu i dair thema; Gwella Mynediad, Treftadaeth Naturiol a Threftadaeth Ddiwylliannol a Hanesyddol.

Darganfyddwch sut y gallwch gymryd rhan mewn prosiectau sy’n ymwneud ag amrywiaeth o elfennau, boed hynny’n gadwraeth natur neu’n archaeoleg.

 

Dysgwch fwy am ein Prosiectau
Partner organisations during a meeting
Cydweithwyr y Cynllun

Dysgwch fwy am bartneriaid y cynllun sy’n cydweithio â ni er mwyn gwarchod treftadaeth naturiol a diwylliannol y Carneddau.

Partneriaid y Cynllun
Site visit from National Heritage Fund Lottery Mentor during a test pit excavation with Neolithic Axes
Pwy sy'n ariannu'r Cynllun?

Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri am eu cefnogaeth, a hebddynt ni fyddai’r cynllun, a’i holl lwyddiannau hyd at yma, yn bosib.

Dysgwch fwy