Os hoffech chi roi yn ôl i’r ardal arbennig yma, mae amrywiaeth o gyfleon gwirfoddoli ar gael gyda Chynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau.

O ymgymryd â thasgau cadwraeth ymarferol ac ymchwilio i archifau hanesyddol i ddysgu sut i fapio nodweddion archeolegol gan ddefnyddio data newydd sbon – fe allwch chi fod yn ofalwr ar y Carneddau.

Volunteers taking part in Lidar Training at Penmaenmawr Museum
Amrywiaeth o gyfleon

Yma mae gweithgareddau ar gael sydd at ddant pawb, gyda chyfleon gwirfoddoli’n amrywio o ymchwil annibynnol a montiro y gellir ei wneud o adref, i waith grŵp rhyngweithiol ar y tir.

Volunteers during Himalayan Balsam clearing session in Bethesda
Buddion gwirfoddoli
  • Ennill sgiliau, profiadau a gwybodaeth newydd.
  • Rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned leol.
  • Dod i wybod a gwerthfawrogi’r hyn sydd ar eich stepen drws.
  • Cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau.
  • Cadw’n heini a chael hwyl!
  • Cymryd rhan mewn camau cadwraeth uniongyrchol.
Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau
Volunteers braken bashing at Coedydd Aber with Snowdonia Society
Gweithio gyda Chymdeithas Eryri

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Eryri i gynnig amrywiaeth o gyfleon gwirfoddoli.

Edrychwch ar eu gwefan isod.

Cymdeithas Eryri

Mae'r cyfleon gwirfoddoli yn cynnwys...

Darganfod a chofnodi nodweddion archaeolegol gan ddefnyddio'n porth lidar ar-lein newydd sbon (yn lansio'n fuan). Discovering and recording archaeological features using our brand-new online lidar portal (coming soon).
Atgyweirio a chynnal a chadw llwybrau troed.
Mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol wrth helpu waredu Jac y Neidiwr.
Casglu hadau coed lleol, eu tyfu yn ein meithrinfa goed a’u plannu yn ein tirwedd er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Cymryd rhan mewn cloddiad archeolegol i ddadorchuddio aneddiadau hynafol cudd a safleoedd gwneud bwyeill Neolithig.
Cynnal a thrawsgrifio cyfweliadau hanes llafar gydag aelodau o'ch cymuned.
Monitro bywyd gwyllt gan gynnwys Brain Coesgoch a Llinos y Mynydd, mewn cydweithrediad â’r RSPB.
Diogelu a gwarchod ardaloedd sy'n cynnwys mawndir i helpu mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Community dig, group photo of volunteers and Gwynedd Archaeological Trust staff
Profiad Hannah o wirfoddoli ar safle archaeolegol

“Ymunais heb unrhyw wybodaeth na chefndir archeolegol ac erbyn diwedd y diwrnod cyntaf roeddwn yn gofyn am aros yn hirach i ddarganfod mwy o ddarganfyddiadau Neolithig! Mae eistedd lle eisteddodd person Neolithig i greu bwyell yn brofiad emosiynol iawn. Byddaf yn ei drysori am byth (esgusodwch y pun!). Roedd pawb mor gyfeillgar a chroesawgar; allwn i ddim aros i fynd yn ôl bob dydd.”