Pwrpas y Brentisiaeth Cadwraeth ac Amaeth yw cynnig profiadau i gadwraethwyr lleol trwy weithio yn y Parc Cenedlaethol a Phartneriaid Prosiect y Carneddau. Mae’r Brentisiaeth yn para’ am flwyddyn ac ystod y cyfnod hwn rhannais fy amser rhwng y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan wneud cwrs coleg Cadwraeth gyda Choleg Cambria ar yr un pryd. I baratoi, mae gen i eisoes radd BSc mewn Sŵoleg ag Ymddygiad Anifeiliaid o Brifysgol Bangor ac mi wnes i wirfoddoli gyda’r Bartneriaeth am flwyddyn ar ôl i mi raddio. Rydw i hefyd yn leol i’r Carneddau, wedi fy magu ym Methesda, ac felly roedd adnabyddiaeth o’r Parc Cenedlaethol a’r Carneddau gen i ar gychwyn y brentisiaeth.
Ers i mi ddechrau’r Brentisiaeth Cadwraeth ac Amaeth yng Nghorffennaf 2022, rydw i wedi cael profiadau amrywiol a bythgofiadwy. Fe ddechreuais hefo gwybodaeth ddigonol am gadwraeth y Carneddau a thipyn o adnabyddiaeth o’r dirwedd ac amaethyddiaeth. Rwan, teimlaf fy mod yn llawer mwy gwybodus am y gwaith pwysig sy’n digwydd ac yn enwedig rydw i wedi dysgu mwy am rywogaethau coed a bywyd gwyllt y Parc Cenedlaethol. Un o fy hoff elfennau o’r prentisiaeth yw dysgu sut i brosesu a thyfu ein coed. Rydw i wedi cael llawer o hwyl gyda gwirfoddolwyr a grwpiau ysgolion wrth gasglu hadau er mwyn i ni eu prosesu a bu’n bleser gweithio yn ein meithrinfeydd coed i dyfu’r holl hadau a gasglwyd gennym.