Darganfod henebion cuddedig o dan lystyfiant wedi gordyfu

Mae nifer o nodweddion archaeolegol pwysig sydd wedi cadw dros amser yn perthyn i'r Carneddau. Maent yn adrodd yr hanes am fywydau pobl o'r gorffennol a sut mae'r tir wedi datblygu hers hynny. Mewn rhai ardaloedd mae'r olion o dan fygythiad gyda phrysgwydd fel eithin a rhedyn yn gordyfu drostynt. Mae safleoedd claddu a seremonïol hynafol ac ehangderau mawr o gaeau cynhanesyddol ac aneddiadau tai crwn yn ogystal â safleoedd eraill yn cael eu gorchuddio o'r golwg a'u difrodi gan wreiddiau'r planhigion.
Ailddarganfod hanes cudd
Tydi nifer o henebion hynafol y Carneddau heb gael eu gweld ers degawdau, mae'r rhain yn cynnwys carneddau ac olion cytiau crwn.
Gwella bioamrywiaeth
Mae porfeydd ucheldirol agored y Carneddau yn gynefin bwydo hanfodol i’r Frân Goesgoch, rhywogaeth o adar prin ac sy’n eiconig i’r ardal.
Lleihau risg tanau gwyllt
Gan greu bylchau rhwng ardaloedd mawr o eithin, rydym yn lleihau’r risg o danau gwyllt drwy greu rhwystrau tân anamlwg.
Beth ydym ni'n ei wneud?

Mae darnau trwchus o eithin a rhedyn wedi gordyfu ar lawer o henebion pwysig y Carneddau. Gyda chymorth gwirfoddolwyr a chontractwyr, rydym yn clirio’r llysdyfiant ymledol yma i ddatgelu a gwarchod yr henebion, yn ogystal â chynyddu bioamrywiaeth. Gwneir hyn drwy agor darnau o laswelltir i gynnig brithwaith o gynefinoedd i gynnal nifer ac amrywiaeth helaeth o fywyd gwyllt, megis y Frân Goesgoch.

Rydym yn gweithio i reoli llysdyfiant sy’n ymledu, ac mae llawer ohono’n cael ei symud â llaw. Mae rhan fawr o’r gwaith clirio yn cael ei wneud yn ofalus gan wirfoddolwyr i osgoi defnyddio peiriannau a allai niweidio’r archeoleg.

Bydd y data a gesglir o’n prosiect LiDaR hefyd yn llywio’r gwaith o glirio llystyfiant trwy ddarparu gwybodaeth fanwl am faint / graddfa’r eithin a’r prysgwydd a thrwy fapio safleoedd hynafol.

Ar ôl i’r gwaith clirio gael ei wneud bydd pryfed yn y pridd yn cael eu monitro i gsel gwell dealltwriaeth ar effeithiau’r gwaith yma ar y rhywogaeth, o ran eu helaethrwydd a’u dosbarthiad.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae eithin yn lleihau’r tir chwilota sydd ar gael i’r frân goesgoch, ac mae eu gwreiddiau’n chwalu gweddillion archeolegol. Mae eithin yn denu anifeiliaid sy’n tyllu, ac fe all eu twneli niweidio nodweddion hynafol, claddedig. Mae’r prosiect hwn yn helpu i amddiffyn safleoedd archeolegol ac yn creu cynefinoedd brithwaith ar y ffridd a’r mynydd agored, yn ogystal ag ennyn diddordeb pobl mewn cadwraeth a threftadaeth  i weithio yn eu hardal leol.

Gan eu bod yn gynefinoedd lled-naturiol, mae angen lefel o reolaeth arnynt i gynnal y nodweddion diwylliannol pwysig hyn ac i gynnal bioamrywiaeth gyfoethog ar gyfer llawer o adar, mamaliaid, ymlusgiaid ac anifeiliaid di-asgwrn cefn / infertebratau.

Red-Billed Chough in a meadow - Carneddau
Manteision i fywyd gwyllt

Yn ogystal â datgelu henebion archaeolegol, mae agor pocedi o laswelltir hefyd o fudd i rywogaethau adar fel y Frân Goesgoch sydd angen mannau pori byr i chwilota am bryfaid i’w bwyta.

Archwiliwch ein Prosiect Brain Coesgoch
Sut ‘allwch chi gymryd rhan?

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am gyfleoedd gwirfoddoli.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleoedd hyfforddi.

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am gyfleoedd gwirfoddoli.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleoedd hyfforddi.