Plannu’r goeden iawn yn y lle iawn

Mae coedydd, gwrychoedd, a choed yn hanfodol ar gyfer tirwedd iach a hapus. Nid yn unig fod coed yn amsugno carbon i helpu brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, maent yn gwella ein hiechyd trwy lanhau'r aer yr ydym yn ei anadlu, darparu gwell lles ac addysg, lleihau llygredd a llifogydd, a chefnogi pobl, bywyd gwyllt a da byw.
Gwarchod coed yn naturiol
Lle bo modd, mae coed yn cael eu plannu mewn ffyrdd sy’n dynwared sut y byddent yn hadu'n naturiol ym myd natur. Mae hyn yn golygu defnyddio amddiffynfeydd coed naturiol fel plannu coed mewn eithin, rhedyn neu ar lethrau serth lle mae’n anodd i anifeiliaid sy’n pori eu cyrraedd a’u bwyta.
Hadau lleol
Trwy gasglu hadau o goed cryf, iach yn Eryri, rydym yn dewis coed sydd â geneteg gref ac wedi esblygu i oroesi yn yr hinsawdd yma. Gall tywydd Gogledd Cymru fod yn arw yn y mynyddoedd; felly, mae’n bwysig ein bod ni'n dewis coed sy’n enetig gadarn i’w tyfu, er mwyn cynnyddu eu siawns o fod yn llwyddiannus wrth eu plannu ar y tir.
Cysylltiad
Mae gwrychoedd yn darparu cysylltiad tirweddol ar gyfer bywyd gwyllt ac yn nodweddion hanfodol yn y tir. Yn ogystal â darparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt maent yn darparu ffenestr i’r gorffennol, gan roi cliwiau i ni am ddulliau rheoli tir hanesyddol.

Beth ydym ni’n ei wneud?

Plannu torlannol

Mae plannu torlannol yn golygu plannu coed ar hyd lwybrau dŵr. Byddem yn plannu’r coed mewn dwyseddau isel er mwyn cynyddu bioamrywiaeth a sefydlogi glannau afonydd. Mae coed hefyd yn helpu i leihau llifogydd, erydiad tir a thirlithriadau am fod eu gwreiddiau’n gweithredu fel sgaffaldiau, gan ddal y pridd ynghyd yn fwy effeithiol. Bydd cael coed gwasgaredig ger dŵr hefyd yn rhoi cysgod gwerthfawr i anifeiliaid a da byw yn ystod misoedd yr Haf ac yn ystod cyfnodau o sychder, a thrwy hyn caiff iechyd da byw ei gynnal ac fe atelir gor-amlygiad at olau’r haul.

Tyfu coed o hadau lleol

Bydd coed brodorol yn cael eu tyfu o hadau a gasglwyd yn ac o gwmpas y Carneddau. Bydd hyn yn sicrhau ein bod ni’n plannu coed sydd wedi esblygu ac addasu i’w hamgylchedd, gan olygu y bydd y byddent yn fwy tebygol o oroesi ac yn fwy gwydn dywydd Gogledd Cymru; sydd weithiau’n gallu bod yn eithafol!

 

Coed hynafol a pherllannau

Mae coed hynafol yn gynefin hynod werthfawr i bob math o fywyd gwyllt. Mae’r term hynafol yn disgrifio coeden gyda nodweddion fel creithiau, clwyfau neu bydredd sy’n ymddangos gydag oedran ac yn cynnal amrywiaeth o fywyd o gyrff ffwngaidd i anifeiliaid di-asgwrn cefn / infertebratau a mamaliaid. Mae’r coed hyn yn cynnwys derw mawr mewn caeau iseldirol a draenen wen sy’n tyfu’n araf ar y ffridd. Bydd y coed hyn o arwyddocâd diwylliannol ac ecolegol yn cael eu cofnodi. Rydym hefyd yn anelu at weithio ar adfer perllannau.

Gwrychoedd

Mae llwyni gwrychoedd yn cynnwys y ddraenen wen, y ddraenen ddu a rhosyn y ci, sy’n ffynonellau bwyd hanfodol yn ystod yr hydref a’r gaeaf ar gyfer adar. Mae gwrychoedd hefyd yn gynefin sy’n cynnal llu o anifeiliaid di-asgwrn cefn / infertebratau a mamaliaid.
Drwy adfer gwrychoedd a chreu rhai newydd, rydym yn cysylltu ardaloedd o fywyd gwyllt, fel coridorau, ac yn cysylltu cynefinoedd nad oeddent wedi’u cysylltu o’r blaen er mwyn cynyddu’r ardal y gall natur ffynnu ynddi.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae manteision coed yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd bellach wedi cael  eu deall yn dda. Maent yn amsugno ac yn storio carbon, yn lleihau llygredd a llifogydd, ac yn cefnogi bywyd gwyllt a da byw i addasu i’r argyfwng hinsawdd.

Sut ‘allwch chi gymryd rhan?

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am weithgareddau casglu hadau a phlannu coed.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleoedd hyfforddi mewn adnabod coed.

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am weithgareddau casglu hadau a phlannu coed.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleoedd hyfforddi mewn adnabod coed.