Beth ydym ni’n ei wneud?
Mae plannu torlannol yn golygu plannu coed ar hyd llwybrau dŵr. Byddem yn plannu’r coed mewn dwyseddau isel er mwyn cynyddu bioamrywiaeth a sefydlogi glannau afonydd. Mae coed hefyd yn helpu i leihau llifogydd, erydiad tir a thirlithriadau am fod eu gwreiddiau’n gweithredu fel sgaffaldiau, gan ddal y pridd ynghyd yn fwy effeithiol. Bydd cael coed gwasgaredig ger dŵr hefyd yn rhoi cysgod gwerthfawr i anifeiliaid a da byw yn ystod misoedd yr Haf ac yn ystod cyfnodau o sychder, a thrwy hyn caiff iechyd da byw ei gynnal ac fe atelir gor-amlygiad at olau’r haul.
Bydd coed brodorol yn cael eu tyfu o hadau a gasglwyd yn ac o gwmpas y Carneddau. Bydd hyn yn sicrhau ein bod ni’n plannu coed sydd wedi esblygu ac addasu i’w hamgylchedd, gan olygu y bydd y byddent yn fwy tebygol o oroesi ac yn fwy gwydn tuag at ein dywydd, sydd weithiau’n gallu bod yn eithafol!
Fydd yr hadau yn cael ei dyfu mewn un o’r tair meithrinfeudd coed mae’r partneriaeth yn gofalu amdan. Nid yn unig mae’r meithrinfeudd yma yn hanfodol i tyfu coed ar gyfer plannu ar y tirwedd, mae nhw hefyd yn arlwyo lleoliad gwych i helpu grwpiau o bobl i dysgu mwy amdan coed ac ein gwaith cadwraeth ehangach.
Mae coed hynafol yn gynefin hynod werthfawr i bob math o fywyd gwyllt. Mae’r term hynafol yn disgrifio coeden gyda nodweddion fel creithiau, clwyfau neu bydredd sy’n ymddangos gydag oedran ac yn cynnal amrywiaeth o fywyd o gyrff ffwngaidd i anifeiliaid di-asgwrn cefn / infertebratau a mamaliaid. Mae’r coed hyn yn cynnwys derw mawr mewn caeau iseldirol a draenen wen sy’n tyfu’n araf ar y ffridd. Bydd y coed yma o arwyddocâd diwylliannol ac ecolegol yn cael eu cofnodi. Rydym hefyd yn anelu at weithio ar adfer perllannau.
Mae llwyni gwrychoedd yn cynnwys y ddraenen wen, y ddraenen ddu a rhosyn y ci, sy’n ffynonellau bwyd hanfodol yn ystod yr hydref a’r gaeaf ar gyfer adar. Mae gwrychoedd hefyd yn gynefin sy’n cynnal llu o anifeiliaid di-asgwrn cefn / infertebratau a mamaliaid.
Drwy adfer gwrychoedd a chreu rhai newydd, rydym yn cysylltu ardaloedd o fywyd gwyllt, fel coridorau, ac yn cysylltu cynefinoedd nad oeddent wedi’u cysylltu o’r blaen er mwyn cynyddu’r ardal y gall natur ffynnu ynddi.
Mae manteision coed yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd bellach wedi cael eu deall yn dda. Maent yn amsugno ac yn storio carbon, yn lleihau llygredd a llifogydd, ac yn cefnogi bywyd gwyllt a da byw i addasu i’r argyfwng hinsawdd.
Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am weithgareddau casglu hadau a phlannu coed.
Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am weithgareddau casglu hadau a phlannu coed.