Beth yw Mawndir?

Mae mawndir yn fath o dir gwlyb ble sy'n medru storio dŵr i'r pwynt ble mae'n arafu planhigion rhag dadelfennu a marw ac yn hytrach mae nhw'n cronni fel mawn. Golygai hyn nad yw'r planhigion yn pydru, neu'n pydru'n araf iawn, ac mae'r carbon a gasglwyd o'r atmosffer ar ffurf CO2 yn ystod ffotosynthesis yn cael ei drosglwyddo i storfa'r mawn. Dyma pam fod mawndiroedd â'r gallu i storio symiau enfawr o garbon - mwy nag unrhyw fath o gynefin arall ar y blaned. Maent yn diroedd sy'n helpu lleihau effaith yr argyfwng newid hinsawdd.
Brwydro yn erbyn newid hinsawdd
A hwythau’n storio dwywaith cymaint o garbon â choedwigoedd, mae mawndiroedd yn elfen hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd
A hwythau’n gweithredu fel amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd, mae gan mawndiroedd y gallu i storio dŵr glaw ac arafu llif y dŵr i diroedd îs.
Cadw trysorau hynafol
Mae mawndiroedd yn darparu archif unigryw o'n gorffennol, o baill hynafol i drysorau'r Oes Efydd. Oeddech chi'n gwybod bod pob metr o fawn yn cynnwys 1,000 o flynyddoedd o hanes?

Dyma ddigar yn Llwytmor, Gorllewin y Carneddau, yn ail-broffilio darnau o fawn agored wrth leihau llethr mawn sydd wedi erydu a gorchuddio’n ôl â llysdyfiant. Bydd hyn yn helpu adfer y cynefin ac yn sicrhau nad yw’r mawn yn sychu ac yn rhyddhau carbon.

Beth ydym ni'n ei wneud?

O dan arweiniad Cynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru, mae gwaith adfer mawndiroedd yn cael ei ganolbwyntio yng Nghledffordd a Llwytmor, dau o’r ardaloedd sy’n cynnwys y nifer fwyaf o fawn yn y Carneddau.

Mae gwaith adfer wedi cynnwys ail-broffilio ardaloedd mawnog agored sydd â’r gallu i sychu a rhyddhau carbon i’r atmosffer.

Gellir adfer mawn sydd wedi erydu hefyd trwy ail-gytrefu’r tir moel gyda hadau addas, planhigion mwsogl Sphagnum ifanc, neu domwellt, gyda chymorth gwirfoddolwyr.

Image of a waterlogged peatland
Pam fod hyn yn bwysig?

Mae mawndiroedd yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd o achos eu potensial i allu storio carbon pan fo’r cynefin mewn cyflwr iach.

Pan gaiff ei adael heb fath o reoliad, mae darnau o fawn sy’n agored ac wedi erydu yn gallu arwain at golli bywyd gwyllt. Mae’r mawndiroedd yn gynefin i adar megis y Gylfinir, y Cudyll bach a’r Boda Tinwyn.

Fodd bynnag, pan fyddant mewn cyflwr da, mae mawndiroedd yn gweithredu fel sbwng, gan amsugno a chadw llawer iawn o ddŵr, gan arafu’r llif, a helpu atal y perygl o lifogydd yng ngwaelodion yr afon. Mae’r effaith amsugnol yma hefyd yn golygu y gall mawndir barhau i fwydo systemau afonydd mewn amodau o sychder, sydd yn ei dro yn cynyddu cadernid y tirwedd rhag newidiadau yn yr hinsawdd a phatrymau tywydd.

Mae astudio mawn yn ffenestr i’r gorffennol lle mae deunydd biolegol fel paill wedi’i gadw, gan ddarparu cofnod o’r amgylchedd hanesyddol filoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae hyn yn gwella ein dealltwriaeth o ran sut mae’r tirwedd wedi esblygu a newid dros y blynyddoedd.

Canllaw i Fawndiroedd

Dysgwch fwy am beth yw mawndir, sut y cânt eu ffurfio, a pham ei bod hi’n hollbwysig i’w gwarchod.

Canllaw Mawndiroedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Sut ‘allwch chi gymryd rhan?

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleoedd hyfforddi.

Edrychwch ar yr Adnoddau sydd ar gael ar Raglen Mawndiroedd yr IUCN a’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar gyfer Mawndiroedd.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleoedd hyfforddi.

Edrychwch ar yr Adnoddau sydd ar gael ar Raglen Mawndiroedd yr IUCN a’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar gyfer Mawndiroedd.