Mae’r rhan fwyaf o garneddi cerrig y Carneddau yn dyddio’n ôl cyn belled â’r Oes Efydd Cynnar (tua 4,500 – 3,500 o flynyddoedd yn ôl). Fe’u hadeiladwyd yn ystod yr un cyfnod â’r henebion seremonïol eraill, megis cylchoedd cerrig a’r meini hirion, sy’n gyffredin ar lethrau isaf ac ym mylchau’r Carneddau. Mae’r Carneddau’n un o’r safleoedd sy’n cynnwys y nifer fwyaf o gofebion cysegredig cyn-hanesyddol ar gyfer seremoniau a chladdedigaethau yn y DU.