Gwarchod carneddau eiconig y Carneddau

Mae tua 150 o garneddau o'r Oes Efydd wedi'u darganfod ar y Carneddau, y rhan fwyaf o'r rheiny ar y copaon ar lethrau uchaf. Roeddynt mor unigryw, mae'r ardal wedi'i enwi ar holau - y Carneddau. Roeddynt yn henebion symbolaidd ac ysbrydol o bwy ac fe ymwelwyd â hwy o bosibl i ddwyn ysbryd cyndeidiau neu i goffáu digwyddiadau mawr bywyd. Mae eu lleoliadau anial yn eu gwahaniaethu rhwng fywyd pob dydd. Mae carneddi'r Carneddau o dan fygythiad gan weithgarwch dynol, eithin a rhedyn. Mae'r prosiect hwn yn anelu i godi ymwybyddiaeth ynghylch arwyddocâd y carneddau ac ymgymryd â gweithgaredd ymarferol i'w hamddiffyn.
Datganiadau mewn carreg
Mae'r rhan fwyaf o garneddi'r Carneddau yn edrych fel pentyrrau o gerrig heddiw, ond mae tystiolaeth yn dangos eu bod nhw wedi cael eu hadeiladu'n ofalus. Maent yn amrywio o ran maint ac roedd rhai yn arfer bod dros 10m mewn diamedr.
Henebion cysegredig
Mae'r carneddau tua 4,500–3,500 o flynyddoedd oed. Adeiladodd ein hynafiaid o’r Oes Efydd rhain fel cofebion cysegredig ar gyfer seremoniau a chladdedigaethau, ac mae’n debyg bod y carneddi wedi’u haddurno’n lliwgar â gwrthrychau a deiliach.
Mannau amlwg
Mae llawer o'r carneddi mewn mannau amlwg ar y tirwedd a gellir eu gweld o bell. A'i eu bwriad oedd bod yn gartref i ysbrydion hynafol fel eu bod nhw'n gwylio dros y cymunedau cynhanesyddol oddi tanynt?

Mae’r rhan fwyaf o garneddi cerrig y Carneddau yn dyddio’n ôl cyn belled â’r Oes Efydd Cynnar (tua 4,500 – 3,500 o flynyddoedd yn ôl). Fe’u hadeiladwyd yn ystod yr un cyfnod â’r henebion seremonïol eraill, megis cylchoedd cerrig a’r meini hirion, sy’n gyffredin ar lethrau isaf ac ym mylchau’r Carneddau. Mae’r Carneddau’n un o’r safleoedd sy’n cynnwys y nifer fwyaf o gofebion cysegredig cyn-hanesyddol ar gyfer seremoniau a chladdedigaethau yn y DU.

Carnedd y Ddelw - Copyright Abbie N Edwards
Beth yw carneddi cerrig?

Gwyddom o gloddiadau archeolegol a gynhaliwyd yng nghanol y 1900au y defnyddiwyd rhai o’r carneddi ar gyfer claddedigaethau amlosgi a chladdedigaethau cist (sef blwch wedi’i leinio â cherrig). Ond doedd y rhan fwyaf o’r carneddau ddim yn cynnwys olion dynol ac mae hi’n debygol iddynt gael eu hadeiladu i ddathlu ysbrydion neu dduwiau hynafol. Roeddent yn nodi mannau cysegredig yn y tirwedd gan weithredu fel symbol ffisegol o gysylltiad rhwng y byd dynol a’r byd goruwchnaturiol.

Gellir gweld y carneddau a leolir ar y mynyddoedd uchel o bellteroedd mawr. Maent yn dangos pwysigrwydd Ucheldir y Carneddau i gymunedau cyn-hanesyddol.

Beth ydym ni'n ei wneud?

Rydym yn codi ymwybyddiaeth o hanes ac arwyddocâd carneddi’r Carneddau, er mwyn hybu eu gwarchodaeth.

Rydym yn monitro’r safleoedd trwy wahanol fathau o gofnodi, megis ffotograffiaeth drôn o’r awyr. Rydymhefyd yn cario allan gwaith cadwraeth, gan gynnwys gweithio gyda gwirfoddolwyr i gael gwared ar lystyfiant prysgwydd a all niweidio yr henebion.

Gan weithio gyda Scottish Power, yr ydym yn tynnu polyn trydan pren, a’r ceblau y mae’n eu cario, a osodwyd yng nghanol carnedd yng Nghefn Coch flynyddoedd maith yn ôl; bydd y rhwydwaith trydan yn cael ei ailgyfeirio i ffwrdd o ardal yr heneb gofrestredig.

Sut ‘allwch chi gymryd rhan?

Ymunwch a gwirfoddolwch i gymryd rhan yn un o’n diwrnodau tynnu prysgwydd a monitro cyflwr y prosiect. Edrychwch ar ein prosiect Dadorchuddio Henebion Hynafol.

Os ydych yn cerdded y dirwedd, siaradwch â cherddwyr eraill am hanes y carneddi er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’u harwyddocâd hanesyddol. Ac os gwelwch bobl yn symud cerrig o’r carneddi, riportiwch hynny fel trosedd.

Cymerwch ran yn un o deithiau cerdded archaeolegol neu sgyrsiau llawn gwybodaeth y prosiect. Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau.

Mae’n drosedd i ddefnyddio synhwyrydd metel ar henebion cofrestredig heb ganiatâd ysgrifenedig gan Cadw ymlaen llaw. Mae hyn yn berthnasol i ddefnyddio synhwyryddion metel daearol a thanddwr. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.