Beth yw dôl?

Mae dôl yn gynefin lled-naturiol sy'n bodoli o sgil arferion rheoli tir. Yn draddodiadol, caniateir i gae dyfu’n ddirwystr nes iddo gael ei gynaeafu ar ddiwedd yr Haf a'i ddefnyddio fel porthiant at y Gaeaf. Bydd da byw yn pori'r ddôl am rai misoedd dros y Gaeaf, cyn i'r ddôl gael ei chau rhag i dda byw allu pori ar ddechrau'r Gwanwyn tan ddiwedd yr Haf er mwyn hybu bioamrywiaeth. Mae’r dull dwysedd isel yma o reoli tir yn helpu i gynnal dôl sy’n gyfoethog o amrywiaeth o rywogaethau. Mae'r rhain yn cynnwys cymysgedd o laswelltau gwyllt sy'n tyfu'n uwch na chaeau sy'n cael eu rheoli'n dynnach gyda llai o fioamrywiaeth. Defnyddir y gair 'dôl' i ddisgrifio amrywiaeth o diroedd gwelltog, llawn blodau, sy'n cael eu cynnal trwy bori gofalus a'i/neu'i dorri gan ddefnyddio pladuriau traddodiadol neu beiriannau modern.
Cynefin Darfodedig
Mae dolydd llawn blodau yn allweddol ar gyfer cynnal pryfaid peillio ac yn gynefin pwysig i lawer o rywogaethau gan gynnwys Llinos y Mynydd. Fodd bynnag, yn ddiweddar, collwyd 97% o ddolydd gwair llawn blodau ar draws y genedl.
Gwarchod Rhywogaeth Brin
Dim ond yn Nant Ffrancon a Dyffryn Ogwen, sydd ar ymyl Gorllewinol y Carneddau, y gellir canfod Llinos y Mynydd yng Nghymru bellach, ble mae llai na 15 pâr magu'n weddill.
Creu Dolydd
Wrth gydweithio â thirfeddianwyr a rhanddeiliaid mae ardaloedd newydd yn cael eu cydnabod fel mannau i greu dolydd newydd. Bydd hyn yn helpu i gynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt ac yn darparu porthiant mwy maethlon i dda byw yn ystod y Gaeaf.
Dyma beth rydym ni'n ei wneud...

Wrth gydweithio â thirfeddianwyr a chymunedau lleol, rydym yn adfer dolydd ar lethrau isaf y Carneddau. Rydym hefyd yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r dolydd ac yn medru darparu cyfleon addysgiadol i bobl ddysgu am y dolydd, sut i sefydlu a chynnal dôl sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau a’u pwysigrwydd i fywyd gwyllt.

Er mwyn rheoli dolydd mae cynnal cydbwysedd ofalus yn hanfodol. Os nad yw’r ddôl yn cael ei phori’n ddigonol gall brysgwydd ymledu a glaswelltau bras dyfu’n drech na’r fflora eraill. Fodd bynnag, gall or-bori achosi i warediad cyfan gwbl ar lysdyfiant yn ogystal â’r tir yn methu amsugno maetholion cyfoethog o achos y lefelau uchel o garthion – ac mae hyn yn arwain at laswelltir sy’n dirywio.

Beth yw Llinos y Mynydd?

Aderyn bach, fel y Pila Brown, yw Llinos y Mynydd, ond mae ganddo gynffon hirach a phig byrrach. Mae ei gefn yn liw brown tywyll, brith, gyda phlu oddi tano a stribedi brown tywyll ar ei ochrau. Mae gan y gwrywod ffolen binc o’i gymharu â ffolen frown y menywod.

Mae Llinos y mynydd yn rywogaeth brin, sydd yn uchel iawn ar restr Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, sy’n cael ei adnabod fel rhywogaeth sy’n peri’r pryder cadwraethol uchaf ac mae angen gweithredu ar frys.

Mae cymoedd Deheuol y Carneddau yn ardaloedd magu a bwydo allweddol yn y Gwanwyn a’r Hydref ar gyfer poblogaeth Llinos y Mynydd yng Ngogledd Cymru. Mae’r aderyn yn bwydo ar hadau yn bennaf, a gall dolydd fod yn ffynhonnell fwyd ar eu cyfer trwy gydol y Gwanwyn, yr Haf ac hyd at ddechrau’r Hydref.

flower rich meadow
Pam fod hyn yn bwysig?

Mae bron i 7.5 miliwn erw o dir dolydd wedi’i golli ers yr 1930au. O sgil colled y cynefin yma mae’r rhywogaethau a’r bywyd gwyllt oedd wedi ymgynefinio ynddynt wedi prinhau neu ddiflannu ar raddfa eithriadol o sydyn a dramatig.

Mae’r diffyg mewn cynefinoedd yma sy’n llawn blodau yn chwarae rhan allweddol yn  nirywiad pobolgaeth y pryfaid peillio; rhywogaeth sy’n allweddol i’n hecosystemau yr ydym yn dibynnu arnynt i beillio’n cyndau ar gyfer cynhyrchu bwyd.

Sut ‘allwch chi gymryd rhan?

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau er mwyn dod o hyd i’r gweithgareddau casglu hadau a phlannu coed diweddaraf.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant i ddod o hyd i gyfleoedd hyfforddi yn y maes adnabod coed.

Cysylltwch â ni trwy gyfrwng ein tudalen Gysylltu i dderbyn cyngor a chymorth ar sut i sefydlu a chynnal gweirgloddiau / dolydd.

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau er mwyn dod o hyd i’r gweithgareddau casglu hadau a phlannu coed diweddaraf.

Cysylltwch â ni trwy gyfrwng ein tudalen Gysylltu i dderbyn cyngor a chymorth ar sut i sefydlu a chynnal gweirgloddiau / dolydd.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant i ddod o hyd i gyfleoedd hyfforddi yn y maes adnabod coed.