
Ystyr LiDaR yw ‘Light Detection and Ranging’. Mae’r dechnoleg yma’n helpu casglu mesuriadau manwl o’r tir, er mwyn creu delweddau 3D o’r hyn sy’n gorwedd o dan wyneb y ddaear.
Casglwyd y data ar draws tirwedd y Carneddau gan ddefnyddio synwyryddion wedi’i gosod o dan awyren fechan, gan gofnodi miloedd o fesuriadau bob eiliad. Defnyddiwyd y data i greu model digidol o dirwedd y Carneddau.
Cafodd y data ei gasglu yn y Gaeaf pan oedd y planhigion wedi marw a’r coed yn noeth, gan roi golygfa glir o arwyneb y ddaear. Datgelodd hyn nodweddion sy’n bresennol o dan arwyneb y ddaear, sydd ddim yn weledol.

- Defnyddio’r data i nodi ardaloedd sydd angen sylw cadwraethol ac i ddarganfod nodweddion hanesyddol ac archaeolegol newydd.
- Datblygu porth ar-lein i wirfoddolwyr, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd allu gweld y mapiau a’r data LiDaR.
- Cynnig hyfforddiant i wirfoddolwyr ar wahanol lefelau technegol er mwyn gallu archwilio’r nodweddion a ddarganfyddwyd trwy LiDaR ac ychwanegu lluniau a gwybodaeth.
- Defnyddio’r data i weithio gyda phartneriaid y Cynllun i nodi’r gwaith sydd angen ei flaenoriaethu a datbygu prosiectau i ddelio â’r rheiny.

Mae rhedyn ac eithin yn lledaenu mewn nifer o ardaloedd ble mae nodweddion archaeolegol yn bresennol, gan wneud safleodd pwysig yn anodd i’w darganfod a’u gwerthfawrogi. Mae’r ddau rywogaeth yma’n dinistro olion archaeolegol wrth i’w gwreiddiau wthio a dymchwel waliau. Bydd data LiDaR yn helpu ni i allu canfod Jac y Neidiwr, adfer mawndir, gwaredu Rhododendron ymledol a datgelu llwybrau cerdded sydd wedi erydu dros amser.

Mae’r prosiect yn anelu i ddarganfod a chofnodi nodweddion pwysig sy’n newydd i’r cyhoedd yn ogystal â chryfhau ein dealltwriaeth o hanes y tirwedd a defnydd tir y bobl leol. Mae’r data yn datgelu anheddau hynafol a systemau caeau nad oeddem yn ymwybodol ohonynt ynghynt, a fydd yn helpu ni greu cynlluniau cadwraethol ar gyfer y dyfodol er mwyn gwarchod nodweddion archaeolegol sydd ar y tir.

Mae’r LiDaR wedi casglu data newydd a chyffrous ar draws 300 cilomedr sgwâr o dirwedd y Carneddau. Mae’r porth LiDaR wrthi’n cael ei ddatblygu, a phan yn gyflawn, bydd pobl yn medru darganfdo nodweddion newydd ar y Carneddau o’u cartrefi.
Cymrwch ran mewn un o deithiau cerdded archaeolegol tywysedig neu ymunwch â un o’r sgyrsiau gwybodaeth yghylch y prosiect.
Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau am waith maes, teithiau cerdded a sgyrsiau sydd ar y gweill.
Cymrwch ran mewn un o deithiau cerdded archaeolegol tywysedig neu ymunwch â un o’r sgyrsiau gwybodaeth yghylch y prosiect.
Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau am waith maes, teithiau cerdded a sgyrsiau sydd ar y gweill.