Aircraft used for Lidar imaging survey
Pwrpas y Prosiect

Defnyddir y prosiect yma ddata lidar sydd wedi’i gomisiynu’n arbennig – sef sgan 3D o arwyneb y ddaear gan ddefnyddio synhwyryddion laser ar waelod awyren fechan. Mae’r dechnoleg yn cofnodi ac yn mapio gwybodaeth newydd, bwysig, am dirwedd y Carneddau, gan ddod o hyd i dystiolaeth o ddefnydd tir hynafol, cytundebau tirweddol a nodweddion tirweddol. Gall wirfoddolwyr fod o help wrth ddarganfod nodweddion archaeolegol cyffrous a gallent gael eu hyfforddi â sgiliau digiol a gwaith tir newydd.

Mae sawl safle o bwys archaeolegol ar y Carneddau y gwyddwn amdanynt eisoes, ond mae manylder y lidar yn dangos fod yna gannoedd o safleoedd eto i’w dargafnod a’u cofnodi. Mae’r prosiect yma’n helpu i ddatgelu aneddiadau hynafol a systemau caeau ar y tirwedd.

Mae’r cam cyntaf, sef casglu data wedi’i gwblhau eisoes. Golygai hyn fod swmp o ddata newydd cyffrous wedi cael ei greu dros ardal o 300 cilomedr sgwâr o dirwedd. Bydd y prosiect yn datblygu porth ac adnodd hyfforddi i wirfoddolwyr allu gweld a defnyddio’r data lidar.

Mae data’r lidar yn cael ei ddefnyddio i helpu nodi rhywogaethau ymledol, gorchudd llysdyfiant a nodweddion daearyddol. Bydd y cofnodion yma’n ein helpu ni ddeall a gofalu am nodweddion archeolegol y Carneddau yn well.

Volunteers taking part in Lidar Training at Penmaenmawr Museum
Beth yw LiDaR?

Ystyr LiDaR yw ‘Light Detection and Ranging’. Mae’r dechnoleg yma’n helpu casglu mesuriadau manwl o’r tir, a hynny o’r awyr, er mwyn creu delweddau 3D o’r hyn sy’n gorwedd o dan wyneb y ddaear a’r prysgwydd. Mae posib tynnu unrhyw orchudd o goed allan o’r delweddau i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gorwedd oddi tanynt, sy’n guddiedig fel arfer. Defnyddir y delweddau yma i fapio’r tirwedd a dadansoddi sut y datblygodd gwahanol nodweddion dros amser, a’u perthynas â’i gilydd.

Mae’r prosiect yma’n defnyddio lidar o’r awyr a grëwyd gan bwls laser o awyren ysgafn i fesur y pellter rhwng yr awyren a’r ddaear.

Cofnodwyd cannoedd ar filoedd o ddarlleniadau pob eiliad, gan roi gwybodaeth 3D manwl iawn am arwyneb y ddaear. Defnyddiwyd y data i greu modelau digidol o  gydraniad uchel o dirwedd y Carneddau.

Lidar test alt text
Beth ydym ni'n ei wneud?
  • Defnyddio LiDaR i sganio’r tirwedd i nodi ble mae angen sylw cadwraethol yn ogystal â nodi nodweddion hanesyddol ac archaeolegol sydd heb eu cofnodi’n flaenorol..

  • Datblygu porth ar-lein i wirfoddolwyr, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd allu gweld data lidar a mapio.

  • Cynnig sesiynau hyfforddi personol gyda gwirfoddolwyr cymunedol ar wahanol lefelau technegol i wirio’r nodweddion a ddarganfyddwyd trwy’r lidar ac i ychwanegu manylion a ffotograffau.

  • Defnyddio’r data i weithio gyda phartneriaid y cynllun i nodi blaenoriaethau gwaith a datblygu prosiectau i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hynny.

Distinctive Carneddau multicellular sheepfold, Gyrn - Carneddau
Pam fod hyn yn bwysig?

Mae Eithin a Rhedyn gorchfygol yn ymledu mewn ardaloedd ble mae nodweddion archeolegol yn tueddu i fod, gan wneud safleoedd pwysig yn anodd i’w canfod a’u gwerthfawrogi. Mae’r ddau blanhigyn yma’n difrodi gweddillion archeolegol. Mae eu gwreiddiau yn gwthio waliau a chloddiau ar wahân. Bydd y data LiDARyn ein helpu i adnabod (a waldio!) Jac y Neidiwr, adfer mawndir, cael gwared ar Rododendron ymledol a nodi ardaloedd sydd ag olion hen lwybrau troed arnynt.

Gwyddem fod nifer o nodweddion pwysig ar dirwedd y Carneddau heb gael eu cofnodi eto. Felly, bydd darganfod a chofnodi’r nodweddion hyn yn gwella’n dealltwriaeth ni o stori’r Carneddau a’i gyd-destun â’r tirwedd. Bydd y data newydd hefyd yn rhoi gwell dealltwriaeth o ddefnydd tir, hynafol a modern, gan bobl leol.

Bydd y prosiect LiDaR yn chwarae rhan hanfodol wrth fapio’r nodweddion hanesyddol ar dirwedd y Carneddau. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu llywio cynlluniau rheoli a chadwraeth at y dyfodol fel y gall olion archeolegol gael eu gwarchod yn effeithiol.

Porth LiDaR yn dod yn fuan

Dewch o hyd i nodweddion newydd a hynny o’ch cartref trwy ddefnyddio porth y Prosiect LiDaR.

Sut y gallwch chi gymryd rhan?

Cymerwch ran yn y cyfleoedd hyfforddiant lidar yn y cnawd neu ar-lein i ddarganfod mwy am y dechnoleg a sut i’w ddefnyddio. Bydd sesiynau gwaith maes yn helpu i gysylltu’r canfyddiadau digidol â’r nodweddion ar lawr gwlad.

Mynychwch un o deithiau cerdded archaeolegol neu sgwrs llawn gwybodaeth am y prosiect.

Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau am waith maes, teithiau cerdded a sgyrsiau sydd ar y gweill.

Cymerwch ran yn y cyfleoedd hyfforddiant lidar yn y cnawd neu ar-lein i ddarganfod mwy am y dechnoleg a sut i’w ddefnyddio. Bydd sesiynau gwaith maes yn helpu i gysylltu’r canfyddiadau digidol â’r nodweddion ar lawr gwlad.

Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau am waith maes, teithiau cerdded a sgyrsiau sydd ar y gweill.

Mynychwch un o deithiau cerdded archaeolegol neu sgwrs llawn gwybodaeth am y prosiect.