Ar ôl nodi ardaloedd sydd angen blaenoriaeth ynghlych llediant y Rhododendron Gwyllt, rydym y gweithio’n agos â chontractwyr arbenigol sy’n gwaredu’r planhigyn ymledol. Yn gyffredinol mae’r broses yn golygu bod yn rhaid cynnal sawl ymweliad i dynnu’r planhigyn yn gorfforol a thrin y gwreiddiau sy’n weddill â chwynladdwr wedi’i dargedu trwy chwistrellu’r gwraidd. Gall y broses o waredu’r planhigyn yn gyfan gwbl bara misoedd, os nad blynyddoedd.
Rydym hefyd yn gweithio gyda chymunedau i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon, gan sicrhau fod pobl yn derbyn y cyfarpar cywir ac yn derbyn cefnogaeth well wrth geisio goresgyn y broblem ar lefel hir dymor. Mae cymryd rhan mewn gweithredu ymarferol yn golygu y gall grwpiau barhau i waredu’r planhigion yn eu hardaloedd lleol tu hwnt i oes y prosiect.
Mae hi’n bwysig bod lledaeniad planhigion ymledol fel y Rhododendron Gwyllt a Jac y Neidiwr yn cael ei reoli i atal y planhigion hyn rhag cymryd cynefinoedd brodorol y Carneddau drosodd, gan arwain at golled sylweddol mewn bioamrywiaeth.
Pe bai’r planhigyn ymledol yma’n cael ei adael, byddai’n debygol i ledaenu i ardaloedd natur o bwys cenedlaethol gan gynnwys Bwlch Sychnant a Choedydd Abergwyngregyn. Pe bai ‘na neb yn cadw golwg ar Jac y Neidiwr, mae’n debygol iddo ledaenu ar hyd lwybrau dŵr i ucheldiroedd y Carneddau, yn enwedig yn Nyffryn Conwy a Dyffryn Ogwen ble mae’r planhigion eisoes yn bresennol.
Mae lledaeniad afreolus rhywogaethau ymledol yn cynyddu dros amser. Pob blwyddyn, mae mwy o blanhigion yn hadu mewn mwy o ardaloedd, sy’n egluro pam fod rheoli rhywogaethau ymledol yn heriol dros ben, ac felly mae angen ymyrraeth ddwys i gyfyngu lledaeniad pellach.
Gwirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri a datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i allu cynllunio gweithgareddau cadwraethol cymunedol sy’n ymwneud â chlirio gwahanol rywogaethau o blanhigion ymledol mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.
Gwirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri a datblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen i reoli rhywogaeth ymledol yn ddiogel ac yn effeithiol.
Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am ddiwrnodau gwirfoddoli i fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol.
Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleoedd hyfforddi.
Edrychwch ar ein tudalen Grantiau am gymorth i glirio Jac y Neidiwr yn eich cymuned.
Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am ddiwrnodau gwirfoddoli i fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol.
Edrychwch ar ein tudalen Grantiau am gymorth i glirio Jac y Neidiwr yn eich cymuned.
Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleoedd hyfforddi.