Beth yw rhywogaethau ymledol a sut maen nhw'n effeithio ein hamgylchedd?

Mae rhywogaethau ymledol yn rywogaethau sy’n gallu effeithio’n negyddol ar blanhigion ac anifeiliaid brodorol.

Mae systemau biolegol mewn cystadleuaeth parhaol a’i gilydd am faeth, dŵr a goleuni. Gall cyflwyno rhywogaeth ‘ddiethr’ i’r systemau hyn ei gwneud yn lefydd fwy cystadleuol.

Mae rhai rhywogaethau ddim yn gallu cystadlu yn erbyn y rhywogaethau newydd sy’n fwy gwydn a chryf, ac yn gwingo yn ei erbyn ac weithiau yn diflannu o leoliad yn gyfan gwbl.

Mi fedrith hwn cael effaith negyddol  â’r anifeiliaid a phryfed sydd wedi esblygu i fyw gyda nhw.

Beth yw Jac y Neidiwr?
Mae Jac y Neidiwr hefyd yn rywogaeth ymledol, anfrodorol sy'n lledaenu'n gyflym ac yn achosi niwed difrifol i'n cynefinoedd brodorol gan gynnwys glannau afonydd a ffosydd. Mae gan Jac y Neidiwr flodau mawr, pinc, siâp boned. Fe'i gelwir hefyd yn 'helmed heddlu' oherwydd eu hymddangosiad. Mae codennau o hadau gwyrdd crog yn dilyn y blodyn. Mae pob planhigyn yn cynhyrchu cannoedd o hadau bob blwyddyn, ac fe all y rhain gael eu taflu trwy gyfrwng rhyddhad ffrwydrol o'r cod hadau, sy'n achosi twf eang, sydd fel arfer yn ymledu i lawr yr afon ar hyd y cyrsiau dŵr. Mae'r dull hynod effeithiol yma o hunan-luosogi yn creu dryslwyni o Jac y Neidiwr hyd at 2.5m o uchder, gan adael ychydig neu ddim lle i rywogaethau brodorol eraill gystadlu.
Lledaenwr o Fri
Gall pob planhigyn gynhyrchu hyd at 800 o hadau gyda'r codennau hadau yn gallu saethu eu hadau hyd at 7m i ffwrdd.
Iechyd Afonydd
Mae Jac y Neidiwr yn trechu rhywogaethau pwysig eraill ac yn gwanhau glannau afonydd pob blwyddyn, gan adael y glannau rheiny yn foel ac yn dueddol o erydu. Mae hyn yn lleihau ansawdd y dŵr ac yn cynyddu’r perygl o lifogydd yn ystod yr Hydref a'r Gaeaf.
Gwasgru gan Ddŵr
Unwaith y byddant wedi ymsefydlu mewn dalgylch afon, mae'r hadau, sy'n gallu parhau'n hyfyw am ddwy flynedd, yn cael eu cludo ymhellach i ffwrdd trwy'r dŵr.
Beth yw'r Rhododendron Gwyllt?
Mae'r Rhododendron Gwyllt yn rywogaeth anfrodorol, ymledol sydd â'r gallu i dyfu hyd at 6m mewn uchder ac mae ganddo flodau mawr pinc a phorffor ym mis Mai a Mehefin. Mae hon yn rhywogaeth a gyflwynwyd sydd wedi ymledu i goetiroedd ac mae’n ffynnu mewn hinsawdd llaith. Mae'n trechu planhigion brodorol ac yn lleihau bioamrywiaeth yn sylweddol. Mae'r rhywogaeth hon yn anodd i’w gwaredu oherwydd gall y  gwreiddiau wneud llawer o egin newydd; gall un llwyn gynhyrchu hyd at filiwn o hadau bach y flwyddyn.
Effaith ar y tirwedd
Mae'r Rhododendron yn rhwystro planhigion a choed brodorol eraill rhag golau'r haul ac fe gaiff hyn effaith negyddol ar fiomarywiaeth yr ardal.
Presenoldeb sylweddol
Dros y ganrif ddiwethaf mae'r Rhododendron Gwyllt wedi lledaenu dros 2,000 hecter yn Eryri ac mae ganddo bresenoldeb sylweddol yn y Carneddau erbyn hyn.
Gwenwyn
Mae Rhododendron Gwyllt yn wenwynig i'r rhan fwyaf o anifeiliaid di-asgwrn cefn / infertebratau a mamaliaid; felly, nid yw’n cefnogi cadwyn fwyd helaeth.
Beth ydym ni'n ei wneud?

Ar ôl nodi ardaloedd sydd angen blaenoriaeth ynghlych llediant y Rhododendron Gwyllt, rydym y gweithio’n agos â chontractwyr arbenigol sy’n gwaredu’r planhigyn ymledol. Yn gyffredinol mae’r broses yn golygu bod yn rhaid cynnal sawl ymweliad i dynnu’r planhigyn yn gorfforol a thrin y gwreiddiau sy’n weddill â chwynladdwr wedi’i dargedu trwy chwistrellu’r gwraidd. Gall y broses o waredu’r planhigyn yn gyfan gwbl bara misoedd, os nad blynyddoedd.

Rydym hefyd yn gweithio gyda chymunedau i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon, gan sicrhau fod pobl yn derbyn y cyfarpar cywir ac yn derbyn cefnogaeth well wrth geisio goresgyn y broblem ar lefel hir dymor. Mae cymryd rhan mewn gweithredu ymarferol yn golygu y gall grwpiau barhau i waredu’r planhigion yn eu hardaloedd lleol tu hwnt i oes y prosiect.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae hi’n bwysig bod lledaeniad planhigion ymledol fel y Rhododendron Gwyllt a Jac y Neidiwr yn cael ei reoli i atal y planhigion hyn rhag cymryd cynefinoedd brodorol y Carneddau drosodd, gan arwain at golled sylweddol mewn bioamrywiaeth.

Pe bai’r planhigyn ymledol yma’n cael ei adael, byddai’n debygol i ledaenu i ardaloedd natur o bwys cenedlaethol gan gynnwys Bwlch Sychnant a Choedydd Abergwyngregyn. Pe bai ‘na neb yn cadw golwg ar Jac y Neidiwr, mae’n debygol iddo ledaenu ar hyd lwybrau dŵr i ucheldiroedd y Carneddau, yn enwedig yn Nyffryn Conwy a Dyffryn Ogwen ble mae’r planhigion eisoes yn bresennol.

Mae lledaeniad afreolus rhywogaethau ymledol yn cynyddu dros amser. Pob blwyddyn, mae mwy o blanhigion yn hadu mewn mwy o ardaloedd, sy’n egluro pam fod rheoli rhywogaethau ymledol yn heriol dros ben, ac felly mae angen ymyrraeth ddwys i gyfyngu lledaeniad pellach.

Hyfforddiant Achrededig Cynllunio Gweithgareddau Rheoli Rhywogaethau Ymledol

Gwirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri a datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i allu cynllunio gweithgareddau cadwraethol cymunedol sy’n ymwneud â chlirio gwahanol rywogaethau o blanhigion ymledol mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.

Gwybodaeth cymhwyster Agored

 

 

Digwyddiadau gwirfoddoli Cymdeithas Eryri
Sut ‘allwch chi gymryd rhan?

Ymunwch ar ddiwrnod gwirfoddoli trwy ein partneriaid Cymdeithas Eryri 

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth a chefnogaeth i sefydlu grŵp cymunedol rhywogaethau ymledol lleol. E-bost: carneddau@eryri.llyw.cymru

Ymunwch ar ddiwrnod gwirfoddoli trwy ein partneriaid Cymdeithas Eryri 

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth a chefnogaeth i sefydlu grŵp cymunedol rhywogaethau ymledol lleol. E-bost: carneddau@eryri.llyw.cymru