Aderyn eiconig y Carneddau

Yr aelod prinnaf o deulu'r frân yw'r Frân goesgoch, ac mae i'w chanfod yn nythu ar glogwyni uchel, arfordirol, mewn chwareli ac adeiladau gwag. Mae gan y Frân goesgoch led adenydd mawr o 82cm, a gall fyw am hyd at 24 mlynedd!
Mythau a chwedlau
Enw arall ar yr aderyn yn Gymraeg yw 'Brân Arthur'. Yn ôl y chwedl, ymadawodd enaid y Brenin Arthur o'r byd hwn ar ffurf Brân Goesgoch, gyda'i choesau a'i phîg yn arwydd o'r diwedd treisgar a gwaedlyd a fu i Arthur.
Cynefinoedd sy'n prinhau
Y bygythiad mwyaf i boblogaeth y Frân Goesgoch yw'r dirywiad mewn cynefin oherwydd newidiadau mewn defnydd tir. Rydym yn helpu i frwydro yn erbyn hyn drwy fonitro eu symudiadau, eu niferoedd ac ansawdd eu cynefin.
Anifeiliaid anwes chwarelwyr
Roedd gweithwyr chwarel ym Methesda a Phenmaenmawr yn aml yn cadw Brain Coesgoch fel anifeiliaid anwes ar ddiwedd y 18fed ganrif ac ar ddechrau'r 19eg ganrif. Yn ystod y cyfnod yma roedd Brain Coesgoch yn adar cawell eithriadol o boblogaidd a byddai curaduron arddangos yn ymweld â mannau chwarelyddol ledled y wlad yn rheolaidd.

Mae’r frân goesgoch yn aderyn hynod o gymdeithasol sy’n cadw mewn cysylltiad cyson â’i chymdeithion. Yn aml, gallwch glywed ei alwad unigryw “tsiiii -ow, tsiiiii-ow” wrth i chi gerdded ar ucheldiroedd y Carneddau.

Mae bron i 30% o boblogaeth y Frân Goesgoch yn y DU i’w gweld yng Ngogledd-Orllewin Cymru, gyda phorfeydd ucheldirol y Carneddau yn cynnig cynefin bwydo hanfodol ar eu cyfer. Rydym yn olrhain poblogaeth y Frân Goesgoch i gael gwell dealltwriaeth o’u hecoleg a’u defnydd o gynefin drwy gydol y flwyddyn. Mae’r wybodaeth yma’n bwysig gan y bydd yn llywio cynlluniau cadwraethol y rhywogaeth tuag at y dyfodol. Mae deiet y Frân Goesgoch yn cynnwys anifeiliaid di-asgwrn cefn / infertebratau a geir eu canfod yn y pridd, y ddaear ac mewn tail, ond gellir dod o hyd i’r adar hefyd yn bwyta hadau ac aeron hefyd. Yn y Gaeaf, bydd Brain Coesgoch yn aml yn mynd at yr arfordir i fwydo ar dwyni tywod a thraethau pan fydd hi’n anos dod o hyd i fwyd ar dir pori.

A red billed Chough in flight
Beth ydym ni'n ei wneud?

Gyda chymorth gwirfoddolwyr, rydym yn clirio llystyfiant mewn lleoliadau ar draws y Carneddau i greu mannau bwydo mwy agored i’r Frân Goesgoch drwy gyfrwng ein prosiect clirio llystyfiant.

Gall pobl leol helpu i adnabod a monitro’r Frân Goesgoch a’r anifeiliaid di-asgwrn cefn / infertebratau. Trwy ddefnyddio hyfforddiant, gall gwirfoddolwyr ein helpu i fonitro niferoedd y Brain Coesgoch a’u hymddygiadau bwydo.

Mae contractwyr hefyd yn monitro niferoedd Brain Coesgoch trwy ddefnyddio tagiau GPS i fapio eu gweithgaredd ar draws y Carneddau. Trwy osod ein gwe-gamerau mewn safleoedd nythu, mae darllediad byw yn cael ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth am yr aderyn prin yma.

Pam fod hyn yn bwysig?

Y frân goesgoch yw’r frân fridio brinnaf yn y DU. Mae wedi’i nodi fel rhywogaeth â blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Un o’r prif fygythiadau sy’n wynebu’r aderyn yma yw colli cynefin addas mewn safleoedd chwilota traddodiadol. Mae angen mwy o bobl i allu helpu adnabod yr adar yma ar ucheldiroedd y Carneddau. Bydd hyn yn arwain at gofnodion cywir o’r rhywogaeth yma ac yn gymorth wrth lywio’r cynlluniau cadwraethol at y dyfodol.

Sut ‘allwch chi gymryd rhan?

Dysgwch fwy am y bygythiadau y mae’r Frân Goesgoch yn ei wynebu gan yr RSPB.

Dysgwch sut i adnabod Brain Coesgoch gan yr RSPB.

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am weithgareddau a digwyddiadau.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleon hyfforddi.

Dysgwch fwy am y bygythiadau y mae’r Frân Goesgoch yn ei wynebu gan yr RSPB.

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am weithgareddau a digwyddiadau.

Dysgwch sut i adnabod Brain Coesgoch gan yr RSPB.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleon hyfforddi.