Mae’r frân goesgoch yn aderyn hynod o gymdeithasol sy’n cadw mewn cysylltiad cyson â’i chymdeithion. Yn aml, gallwch glywed ei alwad unigryw “tsiiii -ow, tsiiiii-ow” wrth i chi gerdded ar ucheldiroedd y Carneddau.
Mae bron i 30% o boblogaeth y Frân Goesgoch yn y DU i’w gweld yng Ngogledd-Orllewin Cymru, gyda phorfeydd ucheldirol y Carneddau yn cynnig cynefin bwydo hanfodol ar eu cyfer. Rydym yn olrhain poblogaeth y Frân Goesgoch i gael gwell dealltwriaeth o’u hecoleg a’u defnydd o gynefin drwy gydol y flwyddyn. Mae’r wybodaeth yma’n bwysig gan y bydd yn llywio cynlluniau cadwraethol y rhywogaeth tuag at y dyfodol. Mae deiet y Frân Goesgoch yn cynnwys anifeiliaid di-asgwrn cefn / infertebratau a geir eu canfod yn y pridd, y ddaear ac mewn tail, ond gellir dod o hyd i’r adar hefyd yn bwyta hadau ac aeron hefyd. Yn y Gaeaf, bydd y Brain Coesgoch yn aml yn mynd at yr arfordir i fwydo ar dwyni tywod a thraethau pan fydd hi’n anodd dod o hyd i fwyd ar dir pori.