Rhannu straeon am fywyd ar y Tirwedd

Mae Lleisiau’r Carneddau yn brosiect ymchwil a hanes llafar sy’n cofnodi, dehongli a rhannu straeon am y Carneddau a cysylltiad y straeon â'r tirwedd. Nod y prosiect yw cofnodi'r amrediad o straeon ac atgofion am dirwedd y Carneddau gyda lleisiau pobl o bob oedran yn nodi'r hyn sy'n gwneud yr ardal yn arbennig. Mae tirwedd y Carneddau yn rhywle sy'n golygu rhywbeth i bobl, a hynny am wahanol resymau. Mae'r prosiect yma'n sicrhau fod yr holl gymunedau yn ogystal â safbwyntiau unigolion o fewn y cymunedau yma yn cael eu cynrychioli.
Cofnodi Newid
Mae bywyd yn y Carneddau wedi newid yn aruthrol ers y 1800au ac yn parhau i ddatblygu hyd heddiw. Rydym eisiau cofnodi profiadau pobl o’r newid yma drwy gofnodi eu hatgofion a’u straeon.
Gwella Sgiliau Cymunedau
Rydym yn bwriadu helpu unigolion a grwpiau cymunedol i ddatblygu eu sgiliau fel bod y weithred o gofnodi hanesion llafar yn parhau. Bydd hyn yn sicrhau fod cofnodion hanesyddol yn tyfu ac yn esblygu'n gyson o fewn y cymunedau.
Arbed Straeon
Mae gwybodaeth a straeon yn bethau amhrisiadwy a gellynt fynd yn angof os na chânt eu rhannu. Helpwch ni i anfarwoli’r straeon hyn fel nad ydynt yn mynd yn angof.
Wyn Griffiths being interviewed for oral history recording
Beth yr ydym ni'n ei wneud?
  • Recordio cyfweliadau â phobl o wahanol ardaloedd ar draws y Carneddau sydd â diddordeb mewn rhannu eu gwybodaeth a’u straeon sy’n ymwneud â byw a/neu weithio ar y tirwedd.
  • Darparu gweithdai hyfforddiant achrededig yn rhad ac am ddim i grwpiau a gwirfoddolwyr unigol er mwyn dysgu sgiliau sy’n cefnogi casglu, digideiddio, archifio a rhannu gwybodaeth.

Rydym yn ychwanegu’r recordiadau i archif Casgliad y Werin Cymru i’w cadw ar gyfer y dyfodol.

Casgliad y Werin Cymru
Pam fod hyn yn bwysig?

Ydych chi erioed wedi dal eich hun yn difaru peidio recordio rhywun yn adrodd stori am y gorffennol? Ydych chi wedi hel atgofion ymysg ffrindiau ac yn meddwl dylid ysgrifennu’ch atgofion?

Mae prosiect Lleisiau’r Carneddau yn defnyddio’n traddodiad hanes llafar i gofnodi atgofion a phrofiadau bywyd pobl y Carneddau, gan leihau’r risg y bydd yr hanesion pwysig hynny’n cael eu colli ac yn diflannu o’r naratif cymunedol.

Bydd y recordiadau’n cael eu cadw a’u storio fel rhan o Gasgliad y Werin Cymru. Bydd yr atgofion a rennir yn rhan o gasgliad parhaol o straeon am dirwedd y Carneddau ac yn adnodd treftadaeth ac addysgu pwysig ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol.

Hanesion Llafar Ffermio ar y Carneddau (Cyfrwng Cymraeg)

Bywyd gwyllt, ceffylau gwaith ac enwau caeau Fferm Bryn Eithin – O. Williams
Cneifio, cymuned a nodi defaid ar Fferm Bryn Eithin – O. Williams
Cynefin, tipio defaid a chorlannau ar Fferm Bryn Eithin – O. Williams
Cynefino ar Fferm Hafod y Gelyn – W. Griffith
Sut y gallwch chi gymryd rhan?

Dewch draw i un o’n gweithdai rhannu straeon cymunedol i rannu eich straeon, lluniau a phrofiadau o ymgysylltu, byw neu weithio ar dirwedd y Carneddau.

Ymunwch â’n gweithdai hyfforddiant achrededig i ddysgu sut i fod yn gyfwelwr hanes llafar a gwirfoddoli gyda ni i gofnodi atgofion pobl leol.

Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn gweithdai hyfforddiant achrededig.

Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau i ddod o hyd i’r gweithdai rhannu straeon hanes llafar sydd ar y gweill a chyfleoedd hyfforddiant yn eich ardal, neu cysylltwch â ni i archebu gweithdy.

Dewch draw i un o’n gweithdai rhannu straeon cymunedol i rannu eich straeon, lluniau a phrofiadau o ymgysylltu, byw neu weithio ar dirwedd y Carneddau.

Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau i ddod o hyd i’r gweithdai rhannu straeon hanes llafar sydd ar y gweill a chyfleoedd hyfforddiant yn eich ardal, neu cysylltwch â ni i archebu gweithdy.

Ymunwch â’n gweithdai hyfforddiant achrededig i ddysgu sut i fod yn gyfwelwr hanes llafar a gwirfoddoli gyda ni i gofnodi atgofion pobl leol.

Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn gweithdai hyfforddiant achrededig.