- Recordio cyfweliadau â phobl o wahanol ardaloedd ar draws y Carneddau sydd â diddordeb mewn rhannu eu gwybodaeth a’u straeon sy’n ymwneud â byw a/neu weithio ar y tirwedd.
- Cynnal gweithdai hanesion llafar a barddoniaeth i gasglu’r straeon yma mewn ffordd greadigol.
- Darparu gweithdai hyfforddiant achrededig yn rhad ac am ddim i grwpiau a gwirfoddolwyr unigol er mwyn dysgu sgiliau sy’n cefnogi casglu, digideiddio, archifio a rhannu gwybodaeth.
Rydym yn ychwanegu’r recordiadau i archif Casgliad y Werin Cymru i’w cadw ar gyfer y dyfodol.
Ydych chi erioed wedi dal eich hun yn difaru peidio recordio rhywun yn adrodd stori am y gorffennol? Ydych chi wedi hel atgofion ymysg ffrindiau ac yn meddwl dylid ysgrifennu’ch atgofion?
Mae prosiect Lleisiau’r Carneddau yn defnyddio’n traddodiad hanes llafar i gofnodi atgofion a phrofiadau bywyd pobl y Carneddau, gan leihau’r risg y bydd yr hanesion pwysig hynny’n cael eu colli ac yn diflannu o’r naratif cymunedol. Mae gwybodaeth, hanes a thraddodiadau hynafol yn dal i ffynnu heddiw oherwydd bod hanes llafar yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Rydym yn dymuno parhau â’r arfer hwn a chadw ein straeon Carneddau a rennir.
Bydd y recordiadau’n cael eu cadw a’u storio fel rhan o Gasgliad y Werin Cymru. Bydd yr atgofion a rennir yn rhan o gasgliad parhaol o straeon am dirwedd y Carneddau ac yn adnodd treftadaeth ac addysgu pwysig ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol.
Dewch draw i un o’n gweithdai rhannu straeon cymunedol i rannu eich straeon, lluniau a phrofiadau o ymgysylltu, byw neu weithio ar dirwedd y Carneddau.
Ydych chi’n gwybod am unrhyw weithdai hanes llafar neu farddoniaeth sy’n digwydd yn y Carneddau? Rhowch wybod i ni i weld a allwn gefnogi’r prosiectau hyn!
Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau i ddod o hyd i’r gweithdai rhannu straeon hanes llafar sydd ar y gweill a chyfleoedd hyfforddiant yn eich ardal, neu cysylltwch â ni i archebu gweithdy.
Dewch draw i un o’n gweithdai rhannu straeon cymunedol i rannu eich straeon, lluniau a phrofiadau o ymgysylltu, byw neu weithio ar dirwedd y Carneddau.
Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau i ddod o hyd i’r gweithdai rhannu straeon hanes llafar sydd ar y gweill a chyfleoedd hyfforddiant yn eich ardal, neu cysylltwch â ni i archebu gweithdy.
Ydych chi’n gwybod am unrhyw weithdai hanes llafar neu farddoniaeth sy’n digwydd yn y Carneddau? Rhowch wybod i ni i weld a allwn gefnogi’r prosiectau hyn!
Hanesion Llafar Ffermio ar y Carneddau (Cyfrwng Cymraeg)
Bywyd gwyllt, ceffylau gwaith ac enwau caeau Fferm Bryn Eithin – O. Williams
Cneifio, cymuned a nodi defaid ar Fferm Bryn Eithin – O. Williams
Cynefin, tipio defaid a chorlannau ar Fferm Bryn Eithin – O. Williams
Cynefino ar Fferm Hafod y Gelyn – W. Griffith
Rydym wedi bod yn hynod o brysur y flwyddyn ddiwethaf, yn gweithio gyda gwneuthurwr ffilmiau lleol, Wildkindness Films, yn cyfweld â phobl leol am eu profiadau, eu bywydau a’u hanes yn y Carneddau. Yn ogystal, rydym hefyd wedi bod yn cynnal gweithdai barddoniaeth, creu ffilmiau byr a recordio beirdd anhygoel y Carneddau, gan adrodd yr hyn sy’n gwneud y dirwedd hardd hon yn gartref iddynt, ac yn gartref i ni.
Cadwch lygad allan yn eich cymuned leol ac ar ein sianel Youtube am gyfle i wylio’r cyfweliadau hanes llafar anhygoel a’r ffilmiau barddoniaeth hyn.