Diogelu a hyrwyddo ymdeimlad o le

Mae enwau lleoedd hanesyddol yn rhan annatod o hanes a diwylliant cyfoethog y Carneddau . Maent yn aml yn ddisgrifiadol ac yn dweud wrthym am leoliad daearyddol, i bwy roedd lle yn perthyn, pwy oedd yn gweithio yno, neu am ddigwyddiad yn ystod y cyfnod pan roddwyd yr enw i’r lle. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) yn datblygu cronfa ddata gynhwysfawr o enwau lleoedd ledled Cymru. Bydd Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn cyfrannu at y gronfa ddata hon drwy’r prosiect enwau lleoedd. Trwy gyfweliadau, gweithdai cymunedol a thrwy weithio gyda gwirfoddolwyr, bydd y prosiect yn nodi enwau lleoedd sydd, hyd yma, heb gael eu cofnodi ond sy’n rhan o eirfa ddiwylliannol y gymuned neu’n fyw yn atgofion teuluoedd lleol – boed yn enw cae, nant, llwybr, darn o dir neu strwythur.
Cysylltiad byw â’n gorffennol
Mae enwau lleoedd yn rhoi cliwiau hollbwysig am ddiwylliant, hanes a daearyddiaeth yr ardal, a sut y bu i bobl lywio’r dirwedd a byw yma yn y gorffennol.
Archifo i'r dyfodol
Bydd cofnodi enwau lleoedd y Carneddau ac ychwanegu at y wybodaeth a gasglwyd yn y cofnod archif cenedlaethol yn sicrhau eu bod yn cael eu cadw, a'u gwarchod, gobeithio.
Sifft ieithyddol
Mae cofnodion enwau lleoedd yn dangos y newidiadau yn y Gymraeg dros gyfnod eithaf byr. Maent hefyd yn dangos sut y gall tafodieithoedd cymunedol fod wedi dylanwadu ar enwau lleoedd a'r newidiadau ieithyddol sy'n digwydd mewn ardaloedd daearyddol cymharol fach.
Carneddau Research Officer with a volunteer inspecting the map for local place names
Beth ydym ni'n ei wneud?

Rydym yn cynnal gweithdai ar draws cymunedau’r Carneddau i gasglu a mapio enwau lleoedd a’r straeon, mythau a chwedlau sy’n eu hamgylchynu.

Rydym yn cynhyrchu map rhyngweithiol digidol o enwau lleoedd y Carneddau sy’n cysylltu’r straeon cysylltiedig a chwedlau. Yn ogystal a hyn, rydym yn recordio pobl mewn cymunedau yn siarad am yr enwau lleoedd a’u harwyddocâd hanesyddol.

Bydd y gwaith yma yn cyfrannu at y gronfa ddata o enwau lleoedd Cymraeg sy’n cael ei llunio gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru (CBHC).

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae enwau lleoedd hanesyddol yn rhan hanfodol o hanes a diwylliant cyfoethog Cymru. Mae enwau lleoedd Cymraeg yn dueddol o fod yn disgrifio amodau, lleoliadau daearyddol neu ddigwyddiadau’r cyfnod pan roddwyd yr enwau lleoedd; gallant ddweud llawer wrthym am hanes y lle penodol hwnnw yn ystod yr amser penodol hwnnw. Mae’n hollbwysig ein bod yn eu cofnodi a’u cadw.

Map enwau lleoedd rhyngweithiol (dod yn fuan)

Bydd ein map rhyngweithiol (dod yn fuan) yn dangos yr enwau lleoedd a’r ystyron yr ydym wedi’u casglu hyd yn hyn.

Cyfres Ffilmiau Byr o Enwau Lleoedd y Carneddau

Gwyliwch ein cyfres ffilm ar Enwau Lleoedd y Carneddau, yn serennu beirdd a llenorion medrus, Ieuan Wyn a Myrddin Ap Dafydd, a Dr Sara Wheeler, ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Darganfyddwch yr ystyron naturiol a hanesyddol y tu ôl i’n henwau lleoedd brodorol, eu harwyddocâd, a’u pwysigrwydd i’w defnyddio i barhau ein gwybodaeth ddiwylliannol gyfunol.

Gwyliwch yma
Enwau Lleoedd Fferm y Carneddau
Sut gallwch chi gymryd rhan?

Dewch i un o’r digwyddiadau enwau lleoedd cymunedol sy’n cofnodi digwyddiadau lle gallwch ddweud wrthym am yr enwau lleoedd a chaeau rydych yn gwybod amdanynt a’r straeon y tu ôl iddynt, a’n helpu i’w hadnabod ar y map. Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau.

Anfonwch wybodaeth am eich enwau lleoedd lleol atom, cysylltwch â ni.

Os ydych yn rhan o grŵp sydd â diddordeb mewn enwau lleoedd lleol, cysylltwch a deuwn at dy gymuned i wneud gweithdy.

Dewch i un o’r digwyddiadau enwau lleoedd cymunedol sy’n cofnodi digwyddiadau lle gallwch ddweud wrthym am yr enwau lleoedd a chaeau rydych yn gwybod amdanynt a’r straeon y tu ôl iddynt, a’n helpu i’w hadnabod ar y map. Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau.

Os ydych yn rhan o grŵp sydd â diddordeb mewn enwau lleoedd lleol, cysylltwch a deuwn at dy gymuned i wneud gweithdy.

Anfonwch wybodaeth am eich enwau lleoedd lleol atom, cysylltwch â ni.