Mae hanes pob un o’r cymunedau sy’n amgylchynnu’r Carneddau yn amrywio ond yn gysylltiedig â’u gilydd. Mae’r chwedlau sy’n deillio o’r ardaloedd yn hynod gyfoethog, boed hynny am bregethwyr, beirdd neu dywysogion. Rhaid ymchwilio’n bellach i ddod o hyd i straeon am wragedd busnes llwyddiannus, syffragetiaid a merched tyngarol a oedd yn esgyrn cefn i’w cymuendau – ond yn wir i chi, mae’r straeon yma’n bodoli.

YN DOD YN FUAN: Cliciwch ar gymuned ar y map i ddarganfod y bobl a’r lleoedd sy’n rhan o’u threftadaeth gyfoethog.