Mae enwau lleoedd yn bwysig i’n treftadaeth ddiwylliannol am eu bod yn adrodd hanes y Carneddau ac yn rhoi cipolwg ar hanes y bobl sydd wedi byw a gweithio ar y tir hwn dros y canrifoedd diwethaf, sydd heb ei gofnodi. Rydym yn gweithio i sicrhau bod y dreftadaeth gyfoethog hon yn cael ei chofnodi a’i dathlu.

Gellir cipio newidiadau yn y dirwedd mewn enwau lleoedd; gallai enw darn o dir gyfeirio at ryw ddefnydd hynafol neu at liw’r llystyfiant. Rydym yn casglu enwau nad ydynt efallai wedi’u cofnodi ar ddogfennau ond sy’n aros yn atgofion teuluoedd; enwau adeiladau, llwybrau, nentydd neu hyd yn oed gerrig. Mae’n bosibl bod rhai nodweddion wedi’u colli a’r unig atgof yw’r enw. Gall hyn fod yr un mor bwysig i ddeall y dirwedd â hanes gweladwy.

Isod mae rhai enghreifftiau o’r hanes hwn sydd wedi’i gipio mewn enwau lleoedd yn y Carneddau.

  • Waun Fflogyn
    Gall bywyd gwyllt gael ei guddio mewn enwau lleoedd. Gwelir hwn yn yr enw Waun Fflogyn, cae yng Nghwm Nant y Benglog ar waelod Tryfan. Credir bod yr enw yn cyfeirio at gysylltiad hanesyddol â chyffylog, aderyn a gafodd ei hela am ei gig a’i blu ac a ddefnyddiwyd gan bysgotwyr lleol.
  • Bryn-y-gwenith
    Mae’r enw lle Bryn-y-gwenith i’r gogledd o Afon Porth Llwyd yn dynodi bod gwenith yn cael ei drin yn yr ucheldir.
  • Hafod
    Mae enwau ‘hafod’ niferus yn yr ardal, sy’n ymwneud â’r hen anheddau haf a phorfeydd yr ucheldirol.
Map image of the Carneddau area supported by the Carneddau Landscape Partnership
Beer barrels
Adlewyrchiad o ddigwyddiadau a gweithgareddau hanesyddol

Mae enwau caeau fferm ger Llanllechid yn cynnwys cae bychan o’r enw ‘Cae Ffeltiwr’, lle bu gwneuthurwr het ffelt yn byw ar un adeg. Mae enwau lleoedd a roddir i leoliadau yn y dirwedd dros genedlaethau yn aml yn adlewyrchu digwyddiadau, gweithgareddau a chysylltiadau. Mae ‘Maen Cwrw’ ar Gomin Llanllechid yn un enghraifft. Cafodd ei henwi felly oherwydd byddai staff o Gastell Penrhyn yn dod i fyny ar fulod ac yn gadael casgenni cwrw a bwyd i’r stad yn y fan hon.

Some common Welsh names used in Carneddau and the wider landscape: