Helpwch ni i gael gwared ar eithin o safle siambr gladdu hynafol yng nghwm cudd Cwm Anafon tra yn dysgu mwy am y safle gan archeolegydd.

Dydd Iau 16 Chwefror 2023
10:00 – 15:00, Cwm Anafon, Abergwyngregyn

Mae olion aneddiadau hynafol wedi’u gwasgaru ar hyd y Carneddau. Fodd bynnag, gall tyfiant llystyfiant danseilio’r strwythurau archeolegol hyn, yn ogystal â chuddio eu bodolaeth.

Lefel ffitrwydd – cymhedrol

Rhaid bwcio ymlaen llaw

Cliciwch yma i archebu