Rhoddodd Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau gyfle ardderchog i mi gychwyn gyrfa yn yr adran gadwraeth. Cychwynnais ar fy mhrentisiaeth yng Ngorffennaf 2021, ble y gweithiais gyda Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gwblhau cwrs coleg gyda Coleg Cambria ar yr un pryd.
Cefais fy magu ym Methesda a mae gen i hanes teuluol ym Methesda hefyd, felly roedd dysgu mwy am dreftadaeth y Carneddau a medru gwneud gwahaniaeth i ddyfodol yr ardal o ran natur a’r gymuned leol yn brofiad arbennig.
Trwy weithio gyda’r Parc cefais sawl hyfforddiant coedwigaeth gwahanol. Roedd rhain yn cynnwys pladuro, torri gwair, naddu coed, defnyddio lli gadwyn a’r Cymhwyster Arweinydd Iseldir. Roeddwn i’n gweithio mewn dwy feithrnifa goed ar ran y Parc gan glirio llysdyfiant, torri coed a phlannu coed a gwrychoedd. Cefais gyfle i gloddio am fwyeill neolithig uwchben Llanfairfechan a helpu ar dyddiau ble roedd grwpiau o’r ysgol leol yn cymryd rhan. Cefais gyfle i ddefnyddio fy hyfforddiant Ysgol Goedwig (wedi’i gwblhau yn flaenorol i’m prentisiaeth) i gynnal sesiynau yn coed sy’n lleol i Bethesda a chael dysgu plant am natur a choed sy’n frodorol i’r Carneddau, yn ogystal â siarad ar Radio Cymru ac ymddangos ar S4C a Countryfile.