Rhoddodd Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau gyfle ardderchog i mi gychwyn gyrfa yn yr adran gadwraeth. Cychwynnais ar fy mhrentisiaeth yng Ngorffennaf 2021, ble y gweithiais gyda Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gwblhau cwrs coleg gyda Coleg Cambria ar yr un pryd. 

Cefais fy magu ym Methesda a mae gen i hanes teuluol ym Methesda hefyd, felly roedd dysgu mwy am dreftadaeth y Carneddau a medru gwneud gwahaniaeth i ddyfodol yr ardal o ran natur a’r gymuned leol yn brofiad arbennig.

Trwy weithio gyda’r Parc cefais sawl hyfforddiant coedwigaeth gwahanol. Roedd rhain yn cynnwys pladuro, torri gwair, naddu coed, defnyddio lli gadwyn a’r Cymhwyster Arweinydd Iseldir. Roeddwn i’n gweithio mewn dwy feithrnifa goed ar ran y Parc gan glirio llysdyfiant, torri coed a phlannu coed a gwrychoedd. Cefais gyfle i gloddio am fwyeill neolithig uwchben Llanfairfechan a helpu ar dyddiau ble roedd grwpiau o’r ysgol leol yn cymryd rhan. Cefais gyfle i ddefnyddio fy hyfforddiant Ysgol Goedwig (wedi’i gwblhau yn flaenorol i’m prentisiaeth) i gynnal sesiynau yn coed sy’n lleol i Bethesda a chael dysgu plant am natur a choed sy’n frodorol i’r Carneddau, yn ogystal â siarad ar Radio Cymru ac ymddangos ar S4C a Countryfile.

Carneddau Landscape Partnership's first Apprentice, Eleri Turner

Wrth weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cefais y cyfle i weithio gyda gwirfoddolwyr trwy glirio llysdyfiant, plannu coed a chasglu hadau. Wrth weithio gyda thîm Ceidwadwyr Ogwen fe ddysgais sawl sgil defnyddiol, megis sut i walio a defnyddio sment,  defnyddio’r offer cywir a defnyddio peiriannau mewn ffyrdd diogel. Mi wnes i helpu sefydlu meithrinfa goed newydd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ogystal.

Cefais gyfleon anhygoel i fod allan ar ben y Carneddau, gan gynnwys chwilio am fawn a oedd angen ei adfer, ardaloedd delfrydol i blannu coed, ymuno â helfa’r Merlod ag ysgrifennu adroddiad ar y Fran Goes Goch.

Daeth fy mhrentisiaeth i ben fis Gorffennaf a cefais gynnig i ymuno â thîm coedwigaeth Parc Cenedlaethol Eryri gan gwblhau cwrs coleg arall yn yr adran. Yna cododd gyfle i ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i weithio fel Ceidwad ar yr Carneddau fel rhan o’r cyllun. Felly es i amdani, a dw i’n falch o allu parhau i weithio ar y prosiectau y bues i’n rhan ohonynt fel prentis ar gynllun Tirwedd y Carneddau.

Podlediad

Gwrandewch ar y podlediad isod er mwyn deall rôl Eleri  o fewn Cynllun Partneriaeth y Carneddau ers iddi orffen ei chyfnod fel prentis.

Podlediad Sophie, Eleri a Ned