Pwrpas Prentisiaeth Cadwraeth ac Amaeth yw cynnig profiadau i gadwriaethwyr lleol trwy weithio i’r Parc Cenedlaethol a Phartneriaid Prosiect y Carneddau. Mae’r Brentisiaeth yn para’ am flwyddyn ac yn ystod y cyfnod yma byddaf yn rhannu fy amser rhwng y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan wneud cwrs coleg Cadwraeth gyda Choleg Cambria ar yr un pryd. I baratoi, mae gen i eisoes radd BSc mewn Sŵoleg ac Ymddygiad Anifeiliaid o Brifysgol Bangor ac ar ôl graddio bues yn rhan o sesiynau gwirfoddoli’r Bartneriaeth am flwyddyn. Mae gen i gysylltiad personol â’r Carneddau yn ogystal, am i mi gael fy magu ym Methesda ac felly roedd fy nghydnabyddiaeth o’r Parc Cenedlaethol a’r Carneddau o safon boddahol.
Ers dechrau’r Brentisiaeth Cadwraeth ac Amaeth ym mis Gorffennaf rydw i wedi cael profiadau amrywiol a bythgofiadwy. Roedd gen adnabyddiaeth dda o dirwedd ac amaethyddiaeth ar ddechrau’r brentisiaeth a digonol oedd fy ngwybodaeth am gadwraeth y Carneddau. Ond yn nawr, teimlaf fy mod i’n llawer mwy gwybodus ynghylch y gwaith pwysig sy’n digwydd ac yn bennaf oll, rwyf wedi dysgu mwy am rywogaethau coed a bywyd gwyllt o fewn y Parc Cenedlaethol.
Un o fy hoff ddarnau o waith yr wyf wedi’i wneud ers i mi ddechrau yw dysgu sut i brosesu a thyfu coed fy hun. Rydw i wedi cael llawer o hwyl gyda gwirfoddolwyr a grwpiau ysgolion wrth gasglu hadau er mwyn eu prosesu a bu’n bleser gweithio yn ein meithrinfeydd coed wrth dyfu’r holl hadau a gasglwyd.
Rwyf wedi llwyr fwynhau dysgu mwy am fy nghartef a’m cynefin. Mae’r cyfleoedd i ddysgu am hanes ac archaeloeg yr ardal yn ddi-ddiwedd ac ‘dw i’n edrych ymlaen i drosglwyddo’r wybodaeth hynny i’m teulu a’m ffrindiau. Mae buddion y brentisiaeth wedi bod yn anhygoel- gan gynnwys siarad ar Radio Cymru, ffilmio gyda’r RSPB a chyfarfod awduron poblogaidd; ond i mi, gwobr fwyaf y brentisiaeth yw cael addysgu fy hun ac eraill am bwysigrwydd y Carneddau.
Wrth ddilyn arweinyddiaeth staff Partneriaeth y Carneddau yn ogystal â chyngor Prentis blaenorol, rwyf wedi derbyn hyffroddiant a mewnwelediadau sydd i’w trysori. Mae’r brentisiaeth hon wedi cynnig ystod o gyfleoedd i mi gan gynnwys diwrnodau gwaith hwyliog ac amrywiol sydd wedi gorchfygu fy angerdd tuag at y warchod y Carneddau. Rwyf wedi cael cymaint o hwyl ac wedi dysgu cymaint ers i mi ddechrau a ni fedraf ddisgwyl i weld beth sydd ar y gweill ar gyfer gweddill y Brentisiaeth.