Rhoddodd y Cynllyn Partneriaeth Tirwedd y Carneddau cyfle ardderchog i mi cychwyn gyrfa yn yr adran cadwraeth. Cychwynais fy mhrentisiaeth yn Gorffenaf 2021, lle mi oeddwn i yn gweithio gyda Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddeiriolaeth Genedlaethol, a wneud cwrs coleg gyda Coleg Cambria. 

Cefais fy magu yn Bethesda, a mae hanes fy nheulu o Fethesda felly mae di bod arbennig i mi dysgu mwy am treftadaeth y Carneddau a allu wneud gwahaniaeth i’r dyfodol y Carneddau o ran natur ag o ran yr cymuned lleol. 

Trwy weithio gyda’r Parc cefais hyfforddiant coedwigaeth e.e.  pladuro, strimmio, brushcutter, chippio coed a lli gadwyn, a llawer mwy yn gynwys Cymhwyster Arweinydd Iseldir. Mi oeddwn I yn weithio dros y Parc ar dwy feithrinfa coed, clirio llystyfiant , torri coed, plannu coed a gwrychoedd. Cefais cyfle I cloddio am bwyeill neolithig uwchben llanfairfechan a helpu allan ar dyddiau lle oedd grwpiau or Ysgol lleol yn cymryd rhan. Mi wnes I allu defnyddio fy hyfforddiant Ysgol Goedwig (cefais yn blaenorol ir prentisiaeth) I rhedeg sesiynau yn coed lleol I Fethesda a dysgu plant am natur a choed brodorol i’r Carneddau, yn ogystal a siarad ar Radio Cymru, a fod ar S4c a Countryfie.

Gan weithio gydar Ymddiriolaeth genedlaethol cefais y cyfle I weithio gyda gwirfoddolwyr yn cliro llystyfiant, plannu coed a casglu hadau. Gan gweithio gyda tim ceidwad Ogwen ddysgais llawer o sgiliau defnyddiol er enghraifft sut I walio a cementio a deffnydd cywir o offer a defnyddio peirianau yn ffordd diogel. Mi wnes I helpu sefydlu meithrinfa coed ir trust hefyd. 

Mae’r cyfle I fod allan ar ben yr Carneddau yn edrych am lleoliadau sydd angen adfer mawn neu ardaloedd I blannu coed,  I ymuno a helfa’r Merlod neu wneud adroddiad ir Fran Goes Goch yn anhygoel I allu dweud fod on gwaith. 

Wrth dod i ben fy mhrentisiath yn Gorffenaf yma cefais cynnig i ymmuno ar tim coedwigaeth y Parc Cenedlaethol Eryri a wneud cwrs coleg arall yn yr adran.  Ag yna daeth gyfle gyda’r Ymddiriolaeth Genedlaethol i weithio fel Ceidwad ar yr Carneddau a dal fel rhan or cynllyn. Felly es i amdani a wedi allu parhau gweithio ar brosiectau cychwynais yn ystod fy mhrentisiaeth fel rhan or Cynllyn tirwedd y carneddau.