Mae sawl cenhedlaeth wedi etifeddu ymdeimlad o angerdd dros y Carneddau; boed hynny’n deillio o weithio ar y tirwedd o fewn y byd amaeth a’r diwydiant chwarelyddol neu beidio.
Mae Prosiectau Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn adrodd a chofnodi enwau lleoedd, diarhebion, traddodiadau amaethyddol a diwylliannol, atgofion pobl a hanesion lleol, oll er mwyn sicrhau bod treftadaeth ddiwylliannol unigryw y Carneddau yn cael ei arbed. Mae’r cynllun wedi bod yn gweithio gyda grwpiau cymunedol o amgylch y Carneddau i ddatblygu prosiectau sy’n dathlu’r tirwedd trwy gyfrwng celf, llenyddiaeth a chwedlau. Dilynwch y ddolen isod i ddarganfod mwy am ein prosiectau Treftadaeth Ddiwylliannol.