Isod mae rhai enghreifftiau o’r hanes hwn sydd wedi’i gipio mewn enwau lleoedd yn y Carneddau.
- Waun Fflogyn
Gall bywyd gwyllt gael ei guddio mewn enwau lleoedd. Gwelir hwn yn yr enw Waun Fflogyn, cae yng Nghwm Nant y Benglog ar waelod Tryfan. Credir bod yr enw yn cyfeirio at gysylltiad hanesyddol â chyffylog, aderyn a gafodd ei hela am ei gig a’i blu ac a ddefnyddiwyd gan bysgotwyr lleol. - Bryn-y-gwenith
Mae’r enw lle Bryn-y-gwenith i’r gogledd o Afon Porth Llwyd yn dynodi bod gwenith yn cael ei drin yn yr ucheldir. - Hafod
Mae enwau ‘hafod’ niferus yn yr ardal, sy’n ymwneud â’r hen anheddau haf a phorfeydd yr ucheldirol.