Dysgu, profiadu, gofalu ac amddiffyn.
Mae ein ystod eang o brosiectau yn golygu y gall gwirfoddolwyr gael mynediad i hyfforddiant ar draws amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cael gwared ar rywogaethau ymledol, hyfforddiant porth lidar, adnabod hadau a chynnal meithrinfeydd coed, creu dolydd a’u cynnal a’u cadw, yn ogystal â chyfri a monitro Brain Coesgoch, a hyfforddiant hanes llafar/cyfweld. Drwy rannu’r wybodaeth yma, fe fydd y gymuned leol wedi datblygu sgiliau i barhau gofalu am y tirwedd yma wedi’r cynllun ddod i ben.
Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau wedi cynnig prentisiaethau 12 mis yn flynyddol am 3 blynedd i unigolion ddysgu am gadwraeth amgylcheddol a threftadaeth y Carneddau gan gynnig profiad ymarferol. Roedd hyn yn cynnwys y cyfle i weithio ochr yn ochr â llawer o sefydliadau ein partneriaid, gan ennill cymhwyster Cadwraeth Amgylcheddol Lefel 2 gyda Choleg Cambria yn ogystal.
Mae’r ceisiadau prentisiaethau yn awr ar gau yn dilyn llwyddiant ein tri prentis; Eleri, Sophie a Thomas.
Cymerwch olwg ar y tudalen ‘Gair gan ein Prentis’ i glywed, yng ngeiriau hi hun, am yr hyfforddiant, y profiadau a’r wybodaeth a gafodd Eleri yn ystod ei phrentisiaeth.
Cymerwch olwg ar y tudalen ‘Gair gan ein Prentis’ i glywed, yng ngeiriau hi hun, am yr hyfforddiant, y profiadau a’r wybodaeth a gafodd Sophie yn ystod ei phrentisiaeth.
Cymerwch olwg ar y tudalen ‘Gair gan ein Prentis’ i glywed, yng ngeiriau ei hun, am yr hyfforddiant, y profiadau a’r wybodaeth a gafodd Thomas yn ystod ei brentisiaeth.
Ochr yn ochr â nifer o’n gweithgareddau gwirfoddoli, mae gennym hefyd opsiynau hyfforddiant ar gael mewn cydweithrediad â Chymdeithas Eryri.
Efallai y gallwn helpu gyda phethau fel dod o hyd i gyllid, hyfforddiant, offer ac adnoddau, cysylltu a rhwydweithio ag eraill a rhoi chymorth a chyngor. Cysylltwch â ni er mwyn darganfod mwy.
Mae llawer o’n prosiectau yn cynnwys cyfleon ar gyfer gwaith gwirfoddol. Cysylltwch os y gallwch chi sbario peth o’ch amser i’n cefnogi.