Roedd y Brentisiaeth Cadwraeth Amgylcheddol yn wirioneddol werth mynd amdani yn fy marn i. Rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan ennill set amrywiol o sgiliau a dyna’n union yr oeddwn yn edrych amdano wrth chwilio am rôl ymarferol awyr agored.

Wrth dyfu i fyny, ni chefais lawer o gyfleoedd i weithio yn yr awyr agored, er roeddwn eisiau o hyd gwneud hynny. Roedd pwysau prifysgol, coleg a ffurfiau ysgrifenedig o ddysgu yno bob amser, ond yn fy marn i, rwy’n dysgu’n ymarferol a thrwy brofiadau corfforol ac felly roedd y rôl prentisiaeth Seiliedig-ar-Waith hon yn hynod o ddefnyddiol ac yn union yr hyn yr oeddwn yn edrych amdano.

Fy hoff elfen o’r brentisiaeth oedd gweithio gyda fy nwylo. Ni chefais y cyfle  trwy wahanol swyddi rydw i wedi’u cael dros amser i wneud hynny, felly mae’n neis dysgu sgiliau o draddodiadau gwahanol, i allu rhoi’r hyn rydw i wedi’i ddysgu yn ôl i bobl eraill sydd eisiau dysgu.

Dysgais set amrywiol o sgiliau gan weithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a  Cheidwaidwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ogwen. Gyda Cheidwadwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dysgais lawer o sgiliau ac arferion cadwraeth awyr agored newydd fel cynnal a chadw llwybrau, codi waliau-sychion, ffensio a llawer o swyddi cynnal a chadw cadwraeth eraill yr ydych yn eu gweld yn y tirwedd. Ochr yn ochr â hynny, roedd y sgiliau a ddysgais gyda Pharc Cenedlaethol Eryri yn fwy “tu ôl i’r llenni” yn y maes cadwraeth.

Roedd llawer o waith i’w wneud yn y meithrinfeydd coed, dyfrio, chwynnu, cymryd archebion coed ar draws y Parc Cenedlaethol yn ogystal â llawer o waith cynnal a chadw o amgylch y llwybrau coetir, chwilio am goed a oedd wedi dod i lawr yn ystod stormydd, a chynnal y rheini safleoedd y mae llawer ohonom wrth ein boddau yn ymweld.

Un sgil newydd rydw i wedi mwynhau ei dysgu fwyaf yw adnabod coed. Yn anffodus, dwi’n meddwl ein bod ni wedi cael ein dileu ychydig fel cymdeithas gyda’n coed a’n gwreiddiau brodorol ac felly mae dysgu’r enwau hyn, eu hystyr a’u tarddiad wedi bod yn hynod o ddiddorol a hwyliog i’w wneud! Rwyf wedi mwynhau cael mwy o gysylltiad â’r tir a’r dirwedd trwy hyn. Rwy’n credu y dylai fod gan fwy o sefydliadau brentisiaethau ar gael a’u bod yn hollbwysig o ran cadw gwybodaeth leol, yn enwedig ym maes cadwraeth a natur. Mae gan bawb wahanol arddulliau dysgu, felly mae dysgu yn y modd hwn, gyda chydbwysedd rhwng gwaith ymarferol ac ysgrifennu myfyriol, yn hynod fuddiol i’r prentis a hefyd y sefydliad.

Podlediad

Gwrandewch ar y podlediad isod i ddeall y rôl y mae Thomas yn ei chwarae yng Nghynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau nawr bod ei brentisiaeth wedi dod i ben.

Podlediad Thomas a Tara
Podlediad Thomas a Tara