Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn cynnwys mwy nag ugain o sefydliadau ac yn cynrychioli’r amrywiaeth o ddiddordebau a chymunedau sy’n bodoli yn nhirwedd y Carneddau. Cliciwch ar yr enwau isod i gael gwybod am waith y partneriaid a’r gwahanol ffyrdd y maent yn rhan o Gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau.
Menter gymdeithasol a chwmni sy’n cynnwys aelodau lleol i bentref Abergwyngregyn sy’n darparu amrywiaeth o brosiectau cymunedol yw Cwmni Adfywio Abergwyngregyn. Mae’r prosiectau cymunedol yma’n cynnwys cynllun Hydro-electrig sy’n eiddo i’r gymuned, Ynni Anafon Energy, yn ogystal â rhedeg caffi llwyddiannus a gofod cymunedol, Yr Hen Felin, yng nghanol y pentref. Mae gwelliannau i lwybrau troed, cadw rheolaeth ar redyn o amgylch henebion archeolegol a theithiau cerdded tywysedig sy’n diweddu yng nghaffi Yr Hen Felin yn rhai o’r prosiectau sy’n cael eu cyflawni yn yr ardal trwy gyfrwng y Cynllun.
Mae Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn falch o fod yn bartner ar y Cynllun. Mae gan fferm ymchwil y Brifysgol, Henfaes, dir sy’n cychwyn o’r Fenai ac yn ymestyn i ffridd y Carneddau. Mae tir yma’n rhan bwysig o’n system bori gyda’n diadelloedd o ddefaid Cymreig. Rydym yn gwneud llawer o ymchwil arloesol yn yr ardal ym meysydd y gwyddorau amgylcheddol, amaethyddiaeth a choedwigaeth, i enwi ond ychydig. Mae ein myfyrwyr yn aml yn ymweld â’r Carneddau ar gyfer sesiynau ymarferol, sy’n ganolog i’w haddysg yn y Brifysgol. Mae meithrinfa goed newydd y Cynllun wedi’i leoli yn Henfaes ynghyd â gwarchodfeydd natur a henebion, ac mae nifer o’n staff yn gysylltiedig â’r Cynllun mewn amryw o ffyrdd.
Mae Cyngor Mynydda Prydain yn cynrychioli dringwyr a cherddwyr bryniau ledled Cymru a Lloegr. Mae nhw’n helpu i hyrwyddo buddiannau Dringwyr a Cherddwyr Bryniau yn y Carneddau ac yn gweithio o fewn y bartneriaeth i hyrwyddo mynediad a gwaith cadwraeth.
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Maent yn gweithio i sicrhau amgylchedd hygyrch ble mae hanes wedi’i ddiogelu’n dda yma yng Nghymru.
Maent yn gwneud hyn drwy:
- helpu i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol er budd ein cenhedlaeth ni yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol
- hyrwyddo datblygiad y sgiliau sydd eu hangen i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol yn briodol
- helpu pobl i drysori a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol
- gwneud ein hamgylchedd hanesyddol weithio er ein lles economaidd
- gweithio gyda phartneriaid i gyflawni ein nodau cyffredin gyda’n gilydd
Rôl Cadw o fewn Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yw cynghori ar reoli’r bron i gant o gofgolofnau cofrestredig sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yn ardal y Cynllun, gyda’r nod o wella eu cyflwr a’u dealltwriaeth gan y cyhoedd.
Mae Merlod y Carneddau yn rywogaeth eiconig ar y tirwedd a phrif nod y gymdeithas yw diogelu’r fuches unigryw hon i sicrhau eu bod yn ffynnu ac yn parhau ar y mynyddoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Fel rhan o gynllun rheoli y cytunwyd arno gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, mae’r gymdeithas wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chynllun y Carneddau i hyrwyddo’r merlod a’n bwriad ni o geisio’i diogelu.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) yw’r corff llywodraethu ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae’n nhw’n darparu gwasanaethau i bobl Sir Conwy, boed hynny’n Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Hamdden, Diwylliant a Llyfrgelloedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Twristiaeth, Datblygu Economaidd ac Adfywio.
Mae Adain Datblygu Lleol a Arweinir gan y Gymuned CBSC yn cefnogi datblygiad cymunedol ac economaidd gyda chymorth gan gronfeydd Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chronfeydd CBSC ei hun. Rydym yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill gan gynnwys yr adran Diwylliant a Gwybodaeth sy’n gyfrifol am raglenni adfywio diwylliannol a arweinir gan y gymuned trwy Creu Conwy, strategaeth ddiwylliant y cyngor.
Ynghyd â Thîm y Carneddau a thrwy weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned, maent yn cefnogi cyfranogiad llawr gwlad, gweithio mewn partneriaeth ac arloesi ar draws ein cymunedau, gan gefnogi datblygiad a gweithrediad prosiectau sydd o fudd i drigolion yr ardal a’r economi leol.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn llais annibynnol i ffermwyr a ffermydd teuluol y wlad a’u gweledigaeth yw gweld ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru, a chenhadaeth yr Undeb yw hyrwyddo a diogelu ffermydd teuluol Cymru, yn genedlaethol ac yn unigol, er mwyn gwireddu gweledigaeth yr Undeb.
Rôl UAC o fewn y bartneriaeth yw hyrwyddo gwaith y Bartneriaeth a sicrhau bod ein haelodau yn ymwybodol o brosiectau a allai fod o ddiddordeb iddynt yn yr ardal fel y gallant gymryd rhan mewn cymaint o brosiectau â phosib gyda Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau, megis plannu coed/gwrychoedd a chofrestru enwau caeau ac yn y blaen.
Heneb (YAG yn flaenorol): Ar 1 Ebrill 2024 unodd pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru i ffurfio Heneb: Ymddiriedolaeth Archeoleg Cymru, gan roi cyngor ar yr amgylchedd hanesyddol ledled Cymru. Sefydlwyd yr elusen ym 1974, a’u prif waith yw darparu addysg a gweithgareddau allgyrsiol i ysgolion a chymunedau. Eu cyfraniad mwyaf tuag at y Cynllun oedd cyd-arwain y cloddio cymunedol a fu i geisio darganfod olion y bwyeill a wnaethpwyd ar y Carneddau yn y cyfnod Neolithig, hyd at 6,000 o flynyddoedd yn ôl!
Roeddent wedi mwynhau cynnig sesiynau archeolegol gymunedol am 3 wythnos dros gyfnod o 3 mlynedd, gyda dros 200 o wirfoddolwyr a myfyrwyr o ysgolion cynradd lleol wedi cymryd rhan.
Cyngor Gwynedd yw corff llywodraethu Sir Gwynedd ac mae’n darparu gwasanaethau i bobl Gwynedd, gan gynnwys Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Hamdden, Diwylliant a Llyfrgelloedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Twristiaeth, Datblygu Economaidd ac Adfywio.
Ynghyd â Chynllun y Carneddau a gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned, maent yn cefnogi cyfranogiad, gweithio mewn partneriaeth ac arloesi ar draws ein cymunedau, gan gefnogi datblygu a gweithredu prosiectau sydd o fudd i drigolion yr ardal a’r economi leol.
NFU Cymru yw’r prif sefydliad amaethyddol sy’n cynrychioli ac yn hyrwyddo pob ffermwr a thyfwr yng Nghymru. Maent yn hyrwyddo ac yn diogelu eu haelodau trwy weithio gyda a dylanwadu’r llywodraeth, y gadwyn gyflenwi a’r defnyddwyr er mwyn sicrhau dyfodol sefydlog a chynaliadwy i amaethyddiaeth yng Nghymru, a chael y fargen orau bosibl i’r aelodau.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn elusen ac yn sefydliad aelodaeth ar gyfer cadwraeth treftadaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn helpu i gyflawni llawer o wahanol brosiectau o fewn y Cynllun. O ddatblygu dolydd; creu meithrinfa goed i gyflenwi coed brodorol a dyfir yn lleol; i blannu’r coed hynny ar ddwysedd isel ger nentydd ac afonydd; dadorchuddio henebion archeolegol o bwysigrwydd; gwella mynediad drwy atgyweirio llwybrau troed; a helpu i warchod cynefin prin Rhostir y Mynydd sydd wedi’i leoli ar gopaon y Carneddau.
Gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru yw gofalu am adnoddau naturiol Cymru a’r hyn y maent yn ei ddarparu ar ein cyfer: helpu i leihau’r risg o lifogydd a llygredd ar bobl ac eiddo; i ofalu am ein lleoedd arbennig ar gyfer lles pobl a bywyd gwyllt; darparu coed; a gweithio gydag eraill i’n helpu ni oll i’w rheoli mewn ffordd gynaliadwy. Mae gan weithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru y wybodaeth, yr arbenigedd a’r angerdd i helpu i wireddu’r nod o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
“Mae CNC yn chwarae rhan allweddol yn y bartneriaeth fel tirfeddianwyr, yn ogystal â chynghori ar reolaeth Massif y Carneddau, sydd wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig, yn ogystal â sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol”.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio i gefnogi pobl Cymru ac ardaloedd eraill y DU i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgareddau gydol oes. Mae eu strategaeth newydd wedi diffinio eu gweledigaeth am y deng mlynedd nesaf; Gwella bywydau pobl trwy weithgareddau awyr agored.
Menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen yw Partneriaeth Ogwen. Fe’i sefydlwyd yn 2013 trwy gydweithrediad arloesol gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai i ddarparu gwasanaeth clercio i’r 3 chyngor a datblygu prosiectau cymunedol. Eu prif rôl yn y cynllun yw cyflwyno prosiectau a digwyddiadau cymunedol i hyrwyddo ymgysylltiad a chysylltiad â thrigolion i’w hamgylchedd naturiol a diwylliannol lleol.
Mae Amgueddfa Penmaenmawr yn amgueddfa gymunedol annibynnol ac yn elusen gofrestredig (rhif 1148984) a reolir gan wirfoddolwyr. Yn ogystal â gofalu am yr amgueddfa a’r siop goffi, maent yn gofalu am gasgliad archif o arteffactau, dogfennau a ffotograffau; trefnu cyfres o ddarlithoedd blynyddol; cynnal digwyddiadau cymunedol; arwain rhaglen o deithiau cerdded treftadaeth; cefnogi lleoliadau addysgu yn yr amgueddfa; yn ogystal a chwarae rhan mewn prosiectau partneriaeth fel Cynllun y Carneddau sy’n canolbwyntio ar warchod treftadaeth lleol.
Mae gwaith Plantlife yn mesur dros bedwar maes strategol – amddiffyn ac adfer, cysylltu pobl â natur, gweithio mewn partneriaethau a chydweithio a dylanwadu. Mae ucheldiroedd ac iseldiroedd y Carneddau yn cynnig amrywiaeth o rywogaethau planhigion, y mae rhai ohonynt yn brin ac yn bwysig i’w diogelu. Y rhai mwyaf nodedig yw’r planhigion a geir yng nghynefin Rhostir y Mynydd a geir yn ardaloedd uchaf a mwyaf eithafol y Carneddau.
Mae PONT yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth, arbenigedd a sgiliau ymarferol ar gadwraeth a phori ledled Cymru. Y nod yw cydweithio â’r rheini o fewn y sector amaethyddol, cadwraeth, cymunedau lleol a grwpiau sydd o diddordeb eraill i helpu darparu atebion pori ymarferol sydd o fudd i’r gwahanol safbwyntiau mewn modd integredig.
Mae RSPB Cymru yn rhan o’r RSPB, yr elusen ledled y DU sy’n gweithio i sicrhau amgylchedd iach i adar a bywyd gwyllt arall, gan helpu i greu byd gwell i bob un ohonom.
Fel rhan o gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, maent yn cydweithio ag eraill i warchod dau o rywogaethau mwyaf prin Eryri, sef y Frân Goesgoch a Llinos y Mynydd. Rydym yn olrhain Brain Coesgoch gyda chymorth gwirfoddolwyr a’r dechnoleg GPS ddiweddaraf i nodi safleoedd chwilota allweddol a llywio rheolaeth cynefinoedd. Yn Nant Ffrancon a Dyffryn Ogwen, rydym yn darparu cynefinoedd llawn hadau i gynnal y boblogaeth olaf o Linos y Mynydd yng Nghymru.
Mae’r Adran Archaeoleg ym Mhrifysgol Sheffield wedi mwynhau sawl ymweliad ymchwil â henebion cofrestredig niferus y Carneddau i gofnodi ac arolygu gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau gan gynnwys radar sy’n treiddio’r tir a LiDAR. Mae eu gwaith partneriaeth gyda Chynllun y Carneddau yn darparu profiadau ymarferol gwerthfawr i’w myfyrwyr a hefyd yn darparu data arolwg a delweddu manwl gywir i ddeall llawer o safleoedd archaeolegol yn well.
Mae Eryri-Bywiol yn sefydliad ‘nid-er-elw’ sy’n gweithredu fel ymgynghoriaeth sy’n darparu prosiectau sy’n gysylltiedig â hamdden awyr agored, twristiaeth a chadwraeth yng Nghymru a thu hwnt ar brydiau. Mae Eryri-Bywiol yn teimlo’n angerddol o blaid hamdden awyr agored a’r buddion i les corfforol a meddyliol pobl, ond yn teimlo’n gryf y dylai’r gweithgareddau yma ddigwydd gyda chyn lleied o effaith ag y bo modd ar y tirwedd a’r ecoleg sydd mewn gofyn.
Trwy gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau mae Eryri-Bywiol yn cynnal cyfres o weithdai amgylcheddol “Hyfforddi’r Hyfforddwr” ac yn creu cynnwys ar gyfer modiwl Carneddau a fydd yn cael ei ychwanegu at Lysgennad Eryri. Pwrpas y gwaith hwn yw cynyddu dealltwriaeth a mwynhad o hanes, traddodiadau diwylliannol a bywyd gwyllt y Carneddau ymhlith darparwyr awyr agored fel y gallant rannu’r wybodaeth yma gyda chleientiaid.
Fel arweinwyr Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Parc Cenedlaethol, gan ddiogelu ei rinweddau naturiol, diwylliannol a hanesyddol. Mae Cynllun y Carneddau’n cael ei redeg drwy dîm dynodedig o 5 aelod o staff; Rheolwr y Cynllun, Swyddog Cefnogi’r Cynllun, Swyddog Ymgysylltu Gogledd y Carneddau, Swyddog Ymgysylltu De y Carneddau a Chynorthwydd Ymgysylltu.
Mae Cymdeithas Eryri yn ymwneud â Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau mewn sawl ffordd. Fel Partner Craidd maent yn helpu i lywio’r prosiect cyffredinol, ac ar lawr gwlad maent yn rheoli timau gwirfoddol sy’n helpu i ofalu am yr ardal wych yma. Mae gwirfoddolwyr yn mynd i’r afael â rhywogaethau planhigion ymledol mewn dalgylchoedd afonydd, yn gwarchod safleoedd archaeolegol rhag ymlediad mewn tir gwyllt ac yn rheoli cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau prin fel y Frân Goesgoch.