Helpu i ddarganfod, diogelu a dathlu'r Carneddau.
Mae Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn raglen 5 mlynedd sy'n ceisio gwarchod treftadaeth naturiol a diwylliannol y Carneddau. Lansiwyd yn 2020 a caiff y cynllun ei gynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, â'i gyllido'n bennaf gan grant gwerth £1.7m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Ymgysylltu â phobl a chymunedau
Rydym yn helpu pobl a chymunedau o amgylch y Carneddau i gysylltu â’r mynyddoedd wrth eu haddysgu am natur, hanes, sut mae pobl wedi siapio'r tirwedd a'r ffyrdd y mae'r tirwedd wedi siapio'r bobl.
Diogelu rhinweddau arbennig
Mae'r Carneddau'n llawn bywyd gwyllt ac yn dew o hanes. Ein nod yw gwarchod yr amgylchedd naturiol, cael gwell dealltwriaeth a rhannu'r ffyrdd y mae pobl wedi defnyddio a byw yn y Carneddau dros filoedd o flynyddoedd.
Dathlu treftadaeth fyw
Rydym eisiau adrodd hanes y mynyddoedd trwy rannu gwybodaeth ddiwylliannol - o lên gwerin i arwyddocâd cofgolofnau archeolegol, dathlu traddodiadau lleol, sicrhau fod enwau lleoedd cynhenid yn parhau i gael ei defnyddio a chofnodi straeon pobl cyn iddynt fynd yn angof.
Loc
Yr hyn rydym ni'n ei wneud...

Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau sy’n ymwneud ag amgylchedd naturiol a hanesyddol y Carneddau, treftadaeth ddiwylliannol yr ardal yn ogystal â gwella mynediad.

Darganfyddwch beth sy’n digwydd a sut y gallwch chi gymryd rhan, o gloddfeydd archaeolegol i daclo rhwyogaethau ymledol!

Dysgwch fwy am ein Prosiectau
Partner organisations during a meeting
Cydweithwyr y Cynllun

Dysgwch fwy am y sefydliadau sy’n cydweithio o fewn y Cynllun er mwyn gwarchod treftadaeth naturiol a diwylliannol y Carneddau.

Partneriaeth Tirwedd y Carneddau
Site visit from National Heritage Fund Lottery Mentor during a test pit excavation with Neolithic Axes
Pwy sy'n ariannu'r Cynllun?

Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth, a hebddynt ni fyddai’r cynllun, a’i holl lwyddiannau hyd at yma, yn bosib.

Dysgwch fwy