Un o gynefinoedd mwyaf bygythiedig Cymru
Mae Rhostir Mynyddig yn bodoli ar gopaon uchaf y Carneddau ac yn cynnal amrywiaeth syfrdanol o blanhigion gan gynnwys corlwyni, cennau a mwsoglau. Mae'n hawdd esgeuluso'r cynefin yma heb gael chwyddwydr wrth law gan mai ond ychydig gentimedrau yw'r planhigion o achos yr amgylchedd eithafol. Mae'r planhigion gwydn yma'n ffynnu mewn ardaloedd sy'n eithriadol o agored ble mae'r pridd yn denau a'r tymheredd yn isel - amgylchedd sy'n atal planhigion eraill, llai gwydn, rhag goroesi.
Coeden Lleia'r Byd
Mae Rhostir y Mynydd yn gartref i goeden lleia'r byd, yr Helygen Fach, sy'n tyfu i tua 2cm o uchder.
Cynefin â Blaenoriaeth
Mae mwy o Rostir Mynyddig yn bresennol ar esgeiriau a chopaon uchel mynyddoedd y Carneddau nag unrhyw leoliad arall yng Nghymru.
O dan bwysau
Mae'r cynefin prin hwn yn wynebu heriau mawr, nid yn unig o sgil newid yn yr hinsawdd ond hefyd erydiad, pwysau pori, cyfoethogiad maetholion, llygredd amgylcheddol, a sathru ffisegol gan bobl a da byw.
Beth ydym ni'n ei wneud?

Codi ymwybyddiaeth o’r pwysau sy’n wynebu’r cynefin anadnabyddus yma trwy drefnu teithiau tywys a chreu adnoddau i rannu gwybodaeth ac addysgu pobl am bwysigrwydd gwarchod y cynefin hwn sy’n brysur brinhau.

Gweithio’n agos â rheolwyr tir i osod ffensys ar raddfa fach a chewyll gwarchod dros dro ar gyfer dibenion monitro gwyddonol. Mae hyn eisoes yn digwydd yng Ngogledd y Carneddau a bydd monitro pellach yn ein helpu ni ddarganfod os yw’r cynefin yn parhau i ddirywio neu’n dechrau dangos arwyddion o adfer.

Montane Heath habitat at Carnedd Dafydd
Pam fod hyn yn bwysig?

Mae Rhostir y Mynydd ar y Carneddau wedi cael ei astudio ers blynyddoedd lawer a dengys y tystiolaeth fod y cynefin yn prinhau ac mewn perygl o ddiflannu’n gyfan gwbl.

Mae hwn yn gynefin â blaenoriaeth sy’n cynnal cymuned brin iawn o blanhigion yr ucheldir ac adar sy’n cael eu gwarchod, fel yr Ehedydd.

Mae angen gweithredu i atal dirywiad parhaus i Rostir y Mynydd fel y byddwn, gobeithio, yn dechrau sylwi ar arwyddion ei fod yn adfer dros y blynyddoedd nesaf, yn hytrach na diflannu!

Sut ‘allwch chi gymryd rhan?

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau i weld y teithiau cerdded tywys.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleoedd hyfforddi.

Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau i weld y teithiau cerdded tywys.

Edrychwch ar ein tudalen Hyfforddiant am gyfleoedd hyfforddi.