Datgelu gweithgarwch dynol rhwng 4,500 a 6,000 o flynyddoedd yn ôl
Ar yr ucheldiroedd uwchben Llanfairfechan a Phenmaenmawr saif tirwedd brin ac o bwys rhyngwladol. Yma, roedd y graig folcanig galed sy'n trigo ar arwyneb y llethrau yn cael ei chwarelu a'i chloddi gan ein cyn-deidiau cyn-hanesyddol er mwyn cynhyrchu bwyeill. Caent eu cyfnewid rhwng cymunedau ledled Prydain. Trwy gyfrwng y prosiect yma mae gwirfoddolwyr dros ddeunaw a disgyblion ysgolion lleol yn defnyddio archaeoleg i ddadorchuddio gwybodaeth newydd ynghylch y tirwedd hynafol yma.
Offer a symbolau
Roedd bwyeill yn arfau hanfodol aml-bwrpas ar gyfer clirio tir a thorri / trin pren, glanhau crwyn anifeiliaid a thasgau eraill. Roeddent hefyd yn symbolau o hunaniaeth, pŵer a statws mewn cymunedau Neolithig.
Arwyddocâd gweithgynhyrchu
Mae nifer o ffynonellau cerrig ar gyfer gwneud bwyeill ac offer eraill yn hysbys yn y DU, ond mae Penmaenmawr a Langdale, yng Nghumbria yn leoliadau amlwg iawn oherwydd graddfa'r chwarela ar y tirwedd.
Arwyddocâd masnach
Gwyddom fod bwyeill o Benmaenmawr wedi'u masnachu a'u cyfnewid dros bellteroedd mawr ledled Cymru a Lloegr, ac fe aethpwyd â hwy hyd yn oed mor bell i ffwrdd ag East Anglia a Chernyw, sy'n profi eu gwerth a'y statws.
Beth yw Bwyeill Neolithig?

Mae’r cyfnod Neolithig ym Mhrydain yn dyddio i tua 6,000 i 4,000 o flynyddoedd yn ôl – cyn i waith metel efydd a haearn gael ei darganfod. O ganlyniad, roedd carreg yn bwysig iawn ar gyfer gwneud offer.

Cafodd craig folcanig wydn â graen mân, o’r enw microdiorite, ei ddarganfod mewn lleoliadau uwchben Penmaenmawr a Llanfairfechan, a’i chloddio i wneud pennau bwyeill. Roedd y pennau bwyeill wedi’u gosod mewn dolenni pren i greu offeryn aml-bwrpas. Caent eu defnyddio i wneud tasgau megis clirio coed a physgrywdd i wneud y tir yn addas i’w ffermio, bwtsiera anifeiliaid a trin pren. Pan yn lân ac yn loyw maent yn wrthrych sydd wir yn werth eu gweld. Does dim amheuaeth eu bod nhw wedi cael eu defnyddio fel eitemau i’w harddangos, i fygwth eraill ac fel arfau treisgar rhwng grwpiau ac unigolion hefyd.

Map Dosbarthiad Bwyeill Neolithig

Mae pennau bwyeill glân, gloyw o Lanfairfechan a Phenmaenmawr wedi’u darganfod ar draws y DU, rhai mewn henebion seremonïol, sy’n dangos eu bod yn symbolau pwysig hefyd fel gwrthrychau ymarferol.

Nod y prosiect hwn yw darganfod mwy am faint y safleoedd gwneud bwyeill yng Ngogledd y Carneddau, a sut roedd y bobl a oedd yn gwneud y bwyeill yn byw.

Lawrlwythwch ein map i weld dosbarthiad bwyeill Graiglwyd ar draws y DU.

Lawrlwythwch y map
Beth ydym ni'n ei wneud?

Mae’r prosiect yn dod ag arbenigwyr, gwirfoddolwyr a phlant ysgolion lleol ynghyd i gydweithio ar gloddfeydd archaeolegol. Wrth balu sawl twll-prawf bychain rydym yn dysgu sut roedd gwneud bwyeill yn cael ei wasgaru ar draws y tirwedd ac yn nodi ardaloedd gweithio ac ardaloedd cytundebol posibl.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac Amgueddfa Penmaenmawr yn cydweithio i adrodd hanes y tirwedd a’r broses o wneuthuriad y bwyeill, ac yn adrodd ar ddarganfyddiadau ac arddangos gwrthrychau o’r cloddiadau.

Pam fod hyn yn bwysig?

Er y gwyddwn am nifer o ffynonellau gwneud bwyeill o garreg leol, ni wyddwn lawer yn eu cylch. Mae’n debygol iawn fod llawer mwy ohonynt wedi goroesi. Mae gwybod am leoliad a graddfa’r safleoedd yma’n helpu i’w hamddiffyn rhag difrod damweiniol ac aflonyddwch.

Am fod y prosiect yma’n digwydd ar un o’r safleoedd mwyaf o ran gwneuthuriad bwyeill Neolithig yn y DU, bydd y prosiect yn helpu i wella ein dealltwriaeth o’r cyfnod Neolithig yn y Carneddau a thu hwnt.

Bydd gweithio gyda gwirfoddolwyr ac ysgolion trwy gloddiadau archaeolegol a rhaglenni addysg yn y prosiect yma’n sicrhau fod y traddodiad pwysig o bobl leol yn ymwneud â darganfod a chadw ein safleoedd gwaith bwyeill Neolithig lleol yn parhau.

Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ddiddordeb mewn archaeoleg a'n gorffennol

Byddwn yn cynnal Gŵyl fwyeill Neolithig i ddathlu llwyddiannau’r prosiect ac i hyrwyddo’r wybodaeth sydd wedi’i ddarganfod.

Byddwn yn trefnu sgyrsiau a theithiau tywys archaeolegol i siarad am y prosiect a’r darganfyddiadau.

Ein nôd yw annog cenhedlaeth newydd o ddiddordeb  mewn archaeoleg a’n gorffennol trwy gydweithio ag ysgolion lleol a grwpiau ieuenctid a chynnig profiad archaeolegol ymarferol iddynt.

Ffilm Fer: Archeoleg Gymunedol - Ty'n Llwyfan, Llanfairfechan, Medi 2022

Sut ‘allwch chi gymryd rhan?

Torchwch eich llewys a chymerwch ran yn nyddiau archeoleg y prosiect ar ddechrau’r Haf a’r Hydref.

Ymunwch ag un o’n teithiau archeolegol tywys neu ein sgyrsiau llawn gwybodaeth. Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau.

Astudiwch ein canfyddiadau, cofnodwch ddarganfyddiadau archeolegol a chymerwch ran mewn gwaith ôl-gloddio. E-bostiwch ni i ddarganfod mwy.

Torchwch eich llewys a chymerwch ran yn nyddiau archeoleg y prosiect ar ddechrau’r Haf a’r Hydref.

Astudiwch ein canfyddiadau, cofnodwch ddarganfyddiadau archeolegol a chymerwch ran mewn gwaith ôl-gloddio. E-bostiwch ni i ddarganfod mwy.

Ymunwch ag un o’n teithiau archeolegol tywys neu ein sgyrsiau llawn gwybodaeth. Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau.