Cysylltu cymunedau lleol â’r tirwedd
Mae llwybrau troed yn cysylltu pobl â natur, treftadaeth a hanes, gan gynnwys bywyd gwyllt prin, cynefinoedd pwysig a safleoedd archeolegol. Gan ddefnyddio'r hawliau tramwy cyhoeddus presennol mae'r prosiect hwn yn gwneud gwelliannau cynnil i lwybrau troed ac arwyddion ar hyd y llwybrau lefel isel i wneud y Carneddau yn fwy hygyrch i gymunedau lleol tra’n cadw at gymeriad gwyllt y tirwedd. Byddem yn gwella mynediad i lwybrau lleol trwy arwyddion gwell, atgyweirio rhannau o lwybrau sydd mewn cyflwr gwael a disodli rhwystrau megis camfeydd a gatiau cyfyngol gyda dewisiadau eraill yn gwneud llwybrau lefel isel yn fwy hygyrch i'r cymunedau lleol.
Llwybrau mwy diogel
Er enghraifft yn Nhal y Braich, lle bydd safon y llwybr ceffyl yn cael ei wella, yn ogystal â mesurau diogelwch ar gyfer croesi'r A5.
Gwarchod cynefinoedd bregus
Ailgyfeirio rhan o'r hawl tramwy presennol sydd yn Nhal y Braich i warchod rhywfaint o orgors sydd o'r ansawdd gorau yn Eryri.
Llwybrau hygyrch
Bydd gwelliannau yn ardal y Rhaeadr Fawr, Abergwyngregyn o fudd i ddefnyddwyr y llwybr hygyrch at y rhaeadrau.
Cydweithio â ffermwyr

Mae’r cynllun yn gweithio gyda ffermwyr tenantiaeth i wella cysoni ffermio a hamdden awyr agored. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy wella cyfeirbwyntiau i annog defnyddwyr i ddilyn llwybrau a gosod gatiau sy’n ‘cau ar eu pennau hunain’ er mwyn atal da byw rhag dianc os gadewir giatiau’n agored.

Rhannu gwybodaeth

Bydd dehongliad o ansawdd uchel, mentrau iechyd a lles ac adnoddau dysgu newydd yn annog pobl leol ac ysgolion i ddod i wybod am natur a threftadaeth yr ardal tra’n cadw’n heini yn yr awyr agored. Bydd gwirfoddolwyr lleol yn helpu i ofalu am lwybrau sy’n agos i adref trwy gydweithio’n agos â Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chymdeithas Eryri, lle bydd cyfleoedd dysgu a hyfforddi yn cael eu datblygu i ennyn diddordeb a gweithredu.

Gellir defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gysylltu cymunedau, trefi a phentrefi o amgylch y Carneddau. Gweler isod fwy o wybodaeth ynghylch cysylltiadau trafnidiaeth leol.

Cysylltiadau trafnidiaeth lleol
Gwybod eich Côd Cefn Gwlad

Parchwch bobl a’r tirwedd trwy ddilyn y Côd Cefn Gwlad. Dysgwch am symbolau cyfeirbwyntiau a’u hystyr trwy lawrlwytho’r adnodd isod.

Côd Cefn Gwlad
Sut ‘allwch chi gymryd rhan:

Ewch allan i’r awyr agored a dewch i adnabod y tirwedd a’r hawliau tramwy presennol.

Cymerwch ran yn ein prosiect Lleisiau’r Carneddau i ddarganfod mwy am enwau lleoedd, straeon, mythau a chwedlau tirwedd y Carneddau.

Dewch yn lysgennad trwy Gynllun Llysgenhadon Eryri.

Cysylltwch i wirfoddoli i ofalu am ein llwybrau troed.

Cofnodwch y rhywogaethau ymledol a welwch trwy ddilyn y ddolen i Gofnod.

Ydych chi wedi gweld olion archaeolegol ac yn meddwl tybed beth ydyn nhw? Ewch i weld y porth LiDaR (sy’n dod yn fuan) i weld os ydynt wedi cael eu cofrestru.