Mae’r Carneddau yn ardal o ddiddordeb hanesyddol mawr. Mae’r ardal yn fyw gyda chylchoedd cytiau, carneddau a gweddillion systemau caeau hynafol. Mae dros 97 o henebion cofrestredig a 4000 o safleoedd archeolegol wedi’u cofnodi yn y dirwedd anhygoel hon.
Mae’r Carneddau yn cymryd eu henw o’r carneddau hynafol sydd wedi’u lleoli ar ei chopaon a’i chribau. Maen nhw’n bentyrrau o gerrig wedi’u gwneud gan bodau ddynol, a ddefnyddir fel claddfeydd neu leoliadau seremonïol. Mae dros 150 o safleoedd wedi’u nodi yn yr ardal. Mae’r rhai a ddarganfuwyd ar y copaon uchaf yn cael eu cymharu â safleoedd seremonïol mewn lleoedd fel Mongolia a Nepal. Byddai’r carneddau hyn wedi bod yn symbolaidd bwysig a gwyddys eu bod wedi’u haddurno â baneri lliwgar ac esgyrn anifeiliaid i helpu i nodi eu pwysigrwydd. O bosib yr ymwelwyd â nhw i ddathlu ysbrydion cyndeidiau, roeddent yn lleoedd amlwg, gyda golygfeydd pell ac yn aml gallent fod yn weladwy o bell.
Mae llawer o bobl yn cerdded drwy’r mynyddoedd, gan symud cerrig wrth fynd i greu llochesi a charneddau newydd, heb fod yn ymwybodol o arwyddocâd yr hyn sydd o’u cwmpas. Rhan o nod y prosiect Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yw gwneud pobl yn ymwybodol o’r archaeoleg werthfawr hon a helpu i warchod y darganfyddiadau pwysig hyn yn well.