Rhoi yn ôl i gymunedau’r Carneddau

Mae Cronfa Grant Cymunedol y Carneddau wedi helpu i gefnogi gwerth dros £50,000 o brosiectau cymunedol sy’n helpu ystod ehangach o bobl i ddeall a gofalu am y Carneddau. Mae’r gronfa wedi bod yn agored i grwpiau di-elw a sefydliadau sy’n gweithio gyda chymunedau yn ardal y Carneddau a’r cyffiniau – gan gynnwys grwpiau cymunedol, partneriaethau, sefydliadau trydydd sector a chyrff cyhoeddus am grantiau hyd at £5000.

Mae’r gronfa hon wedi cynorthwyo i roi prosiectau arloesol a chreadigol ar waith ac i helpu pobl o bob oed a chefndir i ddarganfod, cadw a dathlu eu treftadaeth leol. Boed hynny trwy brosiectau celf, dehongli newydd a chreadigol, ffeiriau cymunedol, sylfeini meithrinfeydd coed, mentrau lles, a llawer mwy.

Edrychwch ar rai o’r prosiectau cymunedol y mae Cronfa Grant Cymunedol y Carneddau wedi’u cynorthwyo isod!

Parc y Moch

Mae CIC Parc y Moch yn goetir teuluol ger Bethesda yn Nyffryn Ogwen, a reolir gan Harri Pickering. Mae’r coetir wedi’i drawsnewid yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn fan awyr agored anhygoel i bawb. Yn cynnal gweithgareddau fel sesiynau Ysgol Goedwig, hyfforddiant a rheolaeth megis gwella bioamrywiaeth a llwybrau’r ardal.

Nod Harri yw gwneud Parc y Moch yn ganolbwynt amgylcheddol i’r dyffryn, creu perthnasau gwaith da gyda grwpiau ac ysgolion lleol ac ymarfer a chefnogi prosiectau amgylcheddol yn yr ardal.

Helpodd Cronfa Grant Cymunedol y Carneddau gynorthwyo nodau Harri a Pharc y Moch trwy weithio gyda’n swyddog ymgysylltu cymunedol, Tara. Mae’r gronfa wedi cefnogi creu meithrinfa goed meicro, sesiynau Ysgol Goedwig, gweithdai celf a chreadigol a llawer mwy i sicrhau hirhoedledd Parc y Moch.

Darganfyddwch mwy am Barc y Moch
Caru Dolgarrog

Roedd Grŵp Cymunedol Caru Dolgarrog yn edrych ar ffyrdd o ddod â chymuned Dolgarrog at ei gilydd trwy rannu hanes, gwybodaeth a dathlu. Trwy deithiau artistig, gweithdai a grwpiau a threfnwyr cymunedol, cafodd Caru Dolgarrog ŵyl gymunedol lwyddiannus yn 2023 fel cyfle i ddod â’r holl waith cyfagos ynghyd.

Roedd thema a gododd dro ar ôl tro yn yr ŵyl hon wedi’i hamgylchynu gan chwedl ‘Y Garrog’, draig sydd, yn nôl y stori, yn gorffwys neu wedi marw yn y bryniau cyfagos.

Dôl-y-Garrog = Meadow-of-the-Garrog

Helpodd Cronfa Grant Cymunedol y Carneddau’r gwirfoddolwyr, y plant a’r storïwyr i berfformio’r chwedl hon yng Ngŵyl Caru Dolgarrog. Mae’r grant wedi cyllido adrodd straeon, gweithdai artistig a gweithgareddau eraill i gefnogi’r perfformiad.

Darganfyddwch mwy am Garu Dolgarrog
Cyngor Dref Llanfairfechan

Yn 2022, dyfarnwyd grant cymunedol i Gyngor Tref Llanfairfechan ar gyfer eu dehongliad anhygoel o’r Carneddau o’r godre a’r mynyddoedd sydd i’w gweld o bromenâd y traeth. Mae deuddeg copa i’w gweld o’r lleoliad hwn!

Nod y prosiect hwn oedd helpu i werthfawrogi’r godre o amgylch i’r rhai oedd yn mynd heibio i ymweld â Gwarchodfa Natur Glan y Môr Elias ac i nodi a dysgu enwau nodweddion y dirwedd. Byddai hefyd yn “caniatáu i drigolion ac ymwelwyr gysylltu â’r Carneddau o bell” fel y dywedodd Jayne Neal, Cadeirydd Cyngor Tref Llanfairfechan, yn eu cais.

A helpodd Partneriaeth Tirwedd y Carneddau hefyd i ariannu gweithgareddau a digwyddiadau cysylltiedig yn ymwneud â chyffro a chyflwyniad y dehongliad hwn.

Ewch lawr i bromenâd tuag at Orllewin yn Llanfairfechan i weld y darn hardd hwn eich hun!

Darganfyddwch mwy am Gyngor Dref Llanfairfechan