Mae tirwedd y Carneddau yn ardal sy’n ymestyn ar draws bron i 220 cilomedr sgwâr yng Ngogledd Eryri. Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd yw mynyddoedd amlycaf y Carneddau –  dau o bum copa 1,000m Cymru.

Mae’r tirwedd rhyfeddol yma yn amrywiol, gyda chlogwyni dramatig, llynnoedd naturiol a dyffrynnoedd dwfn, siâp U bedol wedi’u llunio gan rewlifiant. Ar y llethrau isaf ceir cymysgedd o dir pori traddodiadol a elwir yn ‘ffriddoedd’, yn ogystal â choetir, rhostir a glaswelltir iseldirol. Caiff ffin y Carneddau ei ddiffinio gan odre’r mynyddoedd a’r rhimyn arfordirol yn y Gogledd, a chan ddyffrynnoedd afonydd wedi’u cerfio gan rewlifiant i’r Gorllewin, i’r De a’r De-Orllewin.

Map o Ardal Cynllun y Carneddau

Bethesda and the surrounding communities with Carnedd Llewelyn and Carnedd Dafydd in the background
Pobl

Mae’r Carneddau wedi’i amgylchynu gan amrywiaeth o gymunedau gan gynnwys Conwy; tref brysur ym mhen pellaf y Carneddau, yn ogystal ag ardaloedd tawelach megis Rowen a Threfriw sydd wedi’u lleoli ar ucheldiroedd y Carneddau.

Mae’r bobl sy’n trigo yma yn ran annatod o dirwedd y Carneddau. Pobl sydd wedi siapio’r tir a’r tir sydd wedi’i siapio hwythau. Mae treftadaeth ddiwylliannol unigryw yr ardal wedi’i hymgorffori mewn dulliau rheoli da byw a ffermio, llenyddiaeth, celf, crefydd, diwydiannau chwarelyddol a threfedigaeth pobl dros amser.

Dysgwch fwy am y ffyrdd yr ydym yn helpu i ddiogelu a dathlu treftadaeth ddiwylliannol y Carneddau trwy glicio ar y ddolen isod.

Dysgwch Fwy am Dreftadaeth Ddiwylliannol
a Twite in a flower rich meadow
Cynefinoedd

Mae’r Carneddau’n gartref i ystod eang o fyd natur ac mae nodweddion daearegol y tir wedi sicrhau cyfoeth mewn bio-amrywiaeth yn yr ardal; boed hynny ar y copaon garw, uchaf, neu ar y cymoedd cysgodol, isel.

Mae’r tirwedd yn darparu cynefin a mannau bwydo ar gyfer o gwmpas 6,000 o wahanol rywogaethau. O blanhigion, coed, ffyngau, mamaliaid, amffibiaid, adar, infertebratau / anifeiliaid di-asgwrn cefn, ymlusgiaid a physgod – ac mae rhai o’r rhywogaethau yma o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae amryw o’r rhywogaethau hyn yn rai sy’n prinhau ac o dan fygythiad cynyddol oherwydd y newid yn yr hinsawdd o achos gweithgareddau dynol.

Dewch  i wybod mwy am y ffyrdd yr ydym yn ceisio gwella bioamrywiaeth a mynd i’r afael â newid hinsawdd trwy ein prosiectau treftadaeth naturiol.

Treftadaeth Naturiol
Clearing bracken around a medieval longhut
Hanes

Mae miloedd o safleoedd archeolegol i’w cael yma, ac mae’r rhain yn cynrychioli dros chwe mil o flynyddoedd o weithgarwch dynol yn y Carneddau. Mae bron i 100 ohonynt wedi’u dynodi’n henebion cofrestredig am eu pwysigrwydd cenedlaethol eithriadol. Ymhlith y goreuon mae’r carneddi claddu a’r cylchoedd cerrig o’r Oes Efydd, aneddiadau o gyfnod yr Oes Haearn a’r cyfnod Rhufeinig, systemau caeau a’r anheddau ucheldirol tymhorol canoloesol (Hafotai).

Amgylchedd Hanesyddol
Beth sy'n gwneud yr ardal mor arbennig?

Mae’r amrywiaeth mewn treftadaeth naturiol, hanesyddol a diwylliannol o fewn y Carneddau yn gwneud yr ardal yma’n le arbennig. Mae’r tirwedd yn cynnal cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol.

Ceir yma safleoedd a ddynodwyd yn rai sydd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Mae’r rhain yn cynnwys 97 o henebion cofrestredig sy’n cynrychioli amrywiaeth eang o weithgarwch dynol a dros 3,500 o nodweddion sydd wedi’u rhestru yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol.

Mae treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yr ardal yn cael ei ymgorffori mewn ffermio a rheoli da byw, llenyddiaeth, celf, crefydd, gwlân, chwarela a phobl yn symud ac yn plannu’i gwreiddiau dros amser.

Ardaloedd Nodweddiadol y Carneddau

Darganfyddwch fwy am yr amrywiaeth helaeth o fewn tirwedd y Carneddau, o’r iseldiroedd arfordirol i’r copaon agored.

Oriel y Carneddau