Croeso i rifyn cyntaf Cylchlythyr Rhwydwaith Brain Coesgoch y Carneddau lle cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y Brain Coesgoch a welwyd ar fynyddoedd y Carneddau.

 

Pryd y’u gwelwyd yn fwyaf diweddar

Yr Hydref hwn, bu tywydd Gogledd Cymru yn eithriadol o gyfnewidiol. Er gwaethaf y tywydd poeth, ychydig iawn o ddyddiau tawel a heulog a gafwyd. Gwnaeth hyn y dasg o gynllunio teithiau cerdded i chwilio am Frain Coesgoch yn eithriadol o anodd. Fodd bynnag, roedd y profiad o weld yr anifail yn talu ar ei ganfed pe bai chi’n fodlon mentro cymryd siawns ar y tywydd.

Yr adeg yma o’r flwyddyn mae Brain Coesgoch ifanc yn annibynnol, ac fel arfer maent yn lledaenu i ffwrdd oddi wrth tiriogaeth bridio eu rhieni. Mae’r adar ifanc hyn yn ymgasglu mewn heidiau gydag adar blwydd a dyflwydd oed, ac arbrydiau yn heidio â pharau magu lleol.

Yn gynnar yn yrHhydref, gwelwyd heidiau mawr o’r adar ifanc hyn yn ymgasglu ar y Carneddau. Roedd hyn yn cynnwys 16 ar Foel Wnion a 30 arall ym Mhorth Mynydd Abergwyngregyn yn chwilota ar dir pori byr. Yn ogystal ag adar ifanc o’r Carneddau, roedd y rhai ieuengaf o fewn yr heidiau wedi dod o safleoedd nythu ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys y Gogarth, Eryri (Waun Fawr, Blaenau Ffestiniog a Bethesda), Gogledd Môn a Phenrhyn Llŷn (Ynys Enlli, ac ardaloedd Aberdaron, Tudweiliog a Threfor).

Y rhai a deithiodd bellaf oedd tri brawd a chwaer a oedd wedi deor mewn nyth 92km i ffwrdd, yn union i’r Gogledd o Aberystwyth ar arfordir Ceredigion, i gyd i’w gweld ar y Carneddau ym mis Medi 2022. Gwelwyd un ohonynt wedi hynny ym mis Tachwedd ar Ynys Lawd yn Ynys Môn, a chofnodwyd un arall ym Mhorth Neigwl, Cilan ym mis Rhagfyr.

Dyma 7 Brân Goesgoch yn chwilota ar hyd y llwybr troed ar Gomin Llanllechid ddechrau mis Medi. Mae pedwar Brân Goesgoch gyda modrwyau lliw i’w gweld yn y ffotograff hwn. Mae’r modrwyau lliw yn ran o astudiaeth hir-dymor o’r Frân Goesgoch gan Adrienne Stratford a Tony Cross yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, Prosiect Brain Coesgoch Cymru Cross a Stratford. Mae gan bob un fodrwy fetel a thair modrwy liw ac mae arysgrif ar un ohonynt. Er enghraifft, coes chwith: glas gyda’r arysgrif C4 dros goch; coes dde: brown dros fetel. Parhewch i roi gwybod i Jack Slattery (jack.slattery@rspb.org.uk) ac Adrienne Stratford (adrienne.stratford@btinternet.com) pan ydych chi’n gweld Brain Coesgoch a chofnodion o’u modrwyau lliw yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Ymddengys bod nifer yr heidiau o adar ifanc ar y Carneddau yn prinhau wrth i dywydd oer y Gaeaf ddyfod. Mae llawer wedi symud i arfordir Gogleddol Penrhyn Llŷn, ble maent yn chwilota ar y clogwyni meddal ac ar y traethau rhwng Trefor a Dinas Dinlle. O gymharu â’r Carneddau, mae’n bosib bod mwy o fwyd yn yr ardaloedd yma ar ddiwedd yr Hydref a’r Gaeaf.

 

Clirio Llysdyfiant

O fis Medi ymlaen, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda chymorth Cymdeithas Eryri wedi bod yn cynnal digwyddiadau gyda gwirfoddolwyr i glirio eithin oddi ar Henebion Cofrestredig ar y Carneddau. Gall gwreiddiau eithin a llysdyfiant eraill, megis rhedyn, guddio’r henebion. Mae clirio llysdyfiant hefyd yn cynyddu arwynebedd y cynefin bwydo addas sydd ar gael ar gyfer y Brain Coesgoch, fel y gwelwch yn y llun uchod. Ar hyn o bryd, mae’r ffocws ar hen anheddiad sydd wedi’i leoli uwchlaw Porth Mynydd, Abergwyngregyn. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, edrychwch ar y dudalen ddigwyddiadau ar wefan Cymdeithas Eryri (https://www.snowdonia-society.org.uk/cy/digwyddiadur/).

Cyfrif Brain Coegoch Ynys Môn

Ar ddydd Sadwrn 28ain Ionawr, mae’r RSPB yn cynnal sesiwn cyfrif Brain Coesgoch blynyddol ar Ynys Môn. Mae hyn yn golygu cerdded rhan o’r arfordir a chofnodi unrhyw Frân Goesgoch a welir ar hyd y ffordd. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â Jack Slattery (jack.slattery@rspb.org.uk).