5 mlynedd o ddarganfod, gwarchod a dathlu tirwedd y Carneddau

Dydd Gwener, 26ain o Fedi 2025
Galwch i fewn o 14:00-18:00
Neuadd Gymunedol Capel Curig

Rhwng 2020 a 2025, bu’r Bartneriaeth yn gweithio gyda chymunedau lleol i warchod a dathlu tirwedd y Carneddau drwy ystod eang o brosiectau. Ymunwch â ni i ddysgu mwy!

  • Be rydan ni wedi dysgu am y tirwedd?
  • Pa wahaniaeth mae hyn wedi’i wneud i’ch ardal chi?
  • Rhannwch eich meddyliau!
  • Elfennau interactif.
  • Beth sydd wedi digwydd yn eich ardal?
  • Pa gyfleoedd eraill sydd ar gael?
  • Sgwrsio dros paned a chacen am ddim.

Methu dod? Beth am fynychu diwrnod arall? 

Ewch yn nôl i’r dudalen digwyddiadau am fwy o ddyddiadau sioeau deithiol.