Mae grantiau rhwng £200 a £5,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol bach i ganolig sy’n helpu ystod eang o bobl i ddeall a gwarchod y Carneddau. Mae’r gronfa’n agored i grwpiau di-elw a sefydliadau sy’n gweithio â chymunedau o fewn ac ar gyrion y Carneddau – gan gynnwys grwpiau cymunedol, partneriaethau, sefydliadau trydydd sector a chyrff cyhoeddus.
Dyma gyfle i gyfrannu syniadau tuag at brosiectau arloesol a chreadigol sydd ar waith ac i helpu pobl o bob oedran a chefndir i ddarganfod, cadw a dathlu eu treftadaeth leol. Gallai hyn fod trwy brosiectau celf, dehongli newydd a chreadigol, teithiau cerdded rhithiol, cyrsiau dysgu ar-lein, mentrau lles a llawer mwy.
Swyddogion Ymgysylltu Partneriaeth Tirwedd y Carneddau sy’n penderfynu pwy sy’n derbyn y grantiau. Bydd ymgeiswyr yn gweithio ochr yn ochr â’r Swyddog Ymgysylltu i ddatblygu syniadau cyn cael eu gwahodd i gyflwyno cais pan fydd y syniad wedi’i fireinio, y penderfynir ei fod o fudd i’r gymuned ac yn bodloni amcanion PTYC.