Mae ffermio’n parhau i fod yn rhan hanfodol o gymunedau ac economi leol y Carneddau, ac yn dylanwadu’n fawr ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal. Mae’r tir mynyddig yn elfen hollbwysig i’r diwydiant defaid lleol ac yn cael ei bori gan ddefaid Mynydd Cymreig yn ogystal â defaid Mynydd Cymreig sydd wedi’u croesi â bridiau eraill o ddefaid mynydd.
Mae ffermwyr a rheolwyr tir yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod tirwedd arbennig ac amrywiol y Carneddau yn cael ei gynnal a’i gadw ar gyfer amaethwyr y dyfodol.
Mae’r rhan fwyaf o dir agored y mynydd yn dir comin ac mae’r patrymau pori yn amrywio o gomin i gomin. Yn gyffredinol mae’r hesbinod (defaid blwydd oed) yn cael eu troi i’r mynydd ar ddechrau’r Gwanwyn, yna’r defaid a’i hŵyn yn cael eu troi yno o ganol Mai ymlaen.
Caiff y mynyddoedd ei hel fis Mehefin er mwyn cneifio’r defaid, yna eto yn nechrau Medi er mwyn dyfnu’r ŵyn i’w gwerthu ac yn olaf fis Hydref er mwyn troi meheryn at y defaid yn yr iseldiroedd.
Yn ogystal â’r defaid mai cre o tua 220 o ferlod mynydd yn byw ar y Carneddau. Mae’r nifer manwl gywir yn anhysbys am fod rhai o’r merlod wastad yn medru osgoi’r helfa. Caent eu hel oddi ar y mynydd pob mis Tachwedd er mwyn tynnu’r rhai gwan o’u plith.
Er bod nifer y bobl sy’n cymryd rhan yn yr helfeydd yn lleihau, mae’r traddodiad yn parhau gyda beiciau modur yn helpu gwneud y gwaith ychydig yn haws. Ond ni ellynt gyrraedd pob man ar y mynyddoedd, a dyma ble mae gwaith y ci defaid ffyddlon yn hollbwysig.
Mae’r ddafad Mynydd Gymreig yn ran annatod o gymeriad a pharhad y Carneddau. Er ei bod hi’n gyfraith i roi tagiau plastig yng nghulstiau defaid, caiff clustiau defaid y Carneddau eu nodi â nôd unigol y gwahanol ffermydd er mwyn adnabod eu perchennog wrth ddidol wedi’r helfeydd. Mae’r ffermwyr yn cofio nodau eu cymdogion oddi ar eu cof, mae’n debyg.
Ers talwm, roedd diwrnod cneifio yn ddiwrnod mawr yng nghalendr ffermwyr, ac yn dod â chymdeithas at ei gilydd. Erbyn heddiw mae mecanwaith fodern yn arbed gwaith pum dyn ac mae’r elfen o gydweithio bellach yn angof. Er hynny a’r sefyllfa drychinebus ynghlych pris gwlân mae’r ffermwyr yn dyfalbarhau a’r ddafad Fynydd Gymreig yn ffynnu.
Defnyddir ffensys a waliau ar ffermydd y Carneddau er mwyn gwahanu caeau a cynnal terfynau’r fferm. Mae rhai o waliau’r Carneddau’n sefyll ers degawdau ac yn wledd i’r llygaid.
Mae’r cynllun yma’n cynnig grantiau i blannu gwrych a chodi dwy ffens rhwng y planhigion er mwyn sicrhau cynnydd mewn bioamrywiaeth ar ffermydd.
Gwrandewch ar straeon pobl sydd wedi byw a gweithio yn ardal y Carneddau
Edrychwch ar y newyddion diweddaraf gan Undeb Amaethwyr Cymru.
Edrychwch ar y newyddion diweddaraf gan NFU Cymru.
Edrychwch ar y newyddion diweddaraf gan Undeb Amaethwyr Cymru.
Edrychwch ar y newyddion diweddaraf gan NFU Cymru.