Mae’r Carneddau yn gartref i doreth o fywyd gwyllt a gellir diolch i’r amrywiaeth o nodweddion daearegol am fioamrywiaeth gyfoethog yr ardal – o’r copaon garw i’r cymoedd cysgodol a phopeth rhyngddynt.
Mae’r cynefinoedd sy’n bodoli yma yn amrywio o fryniau tonnog o weundir, glaswellt a mawndir i goetiroedd brodorol, llynnoedd, afonydd, clogwyni uchel, a chopaon eiconig y Carneddau gan gynnwys Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd. Oherwydd y cynefinoedd arbennig yma, mae swmp o’r Carneddau wedi cael ei ddynodi fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn Ardal o Gadwraeth Arbennig (ACA) ac mae pedair Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) yma’n ogystal.
Yn sgil newid hinsawdd, addasiadau mewn rheolaeth tir, pwysau dynol a rhywogaethau ymledol, mae’r amgylchedd naturiol yn wynebu cryn bwysau yn yr oes sydd ohoni. Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn cydweithio’n ddygn i fynd i’r afael â’r heriau hyn er mwyn ceisio creu amgylchedd iach a ffyniannus i bobl ac i natur.