Pwy ydym ni?

Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn gynllun sy’n cynnwys dros 20 o sefydliadau lleol sy’n cydweithio i helpu gwarchod treftadaeth naturiol a diwylliannol y Carneddau.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth Cenedlaethol y Loteri ac yn cael ei gynnal gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri.

Nodau’r cynllun:

  • Hyrwyddo arferion defnydd tir cynaliadwy.
  • Gwarchod ac adfer cynefinoedd prin, bywyd gwyllt, gweddillion archeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol a nodweddion tirwedd penodol.
  • Cofnodi ac amlygu traddodiadau, straeon ac enwau lleoedd lleol.
  • Gweithio gyda chymunedau lleol i ddarganfod, cofnodi, cadw a dathlu’r Carneddau trwy ddigwyddiadau, gweithgareddau, hyfforddiant, gwybodaeth newydd a gwell mynediad.

Newyddion Diweddaraf