Mae grantiau rhwng £200 a £5,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol bach i ganolig sy’n helpu ystod eang o bobl i ddeall a gwarchod y Carneddau. Mae’r gronfa’n agored i grwpiau di-elw a sefydliadau sy’n gweithio â chymunedau o fewn ac ar gyrion y Carneddau – gan gynnwys grwpiau cymunedol, partneriaethau, sefydliadau trydydd sector a chyrff cyhoeddus.
Dyma gyfle i gyfrannu syniadau tuag at brosiectau arloesol a chreadigol sydd ar waith ac i helpu pobl o bob oedran a chefndir i ddarganfod, cadw a dathlu eu treftadaeth leol. Gallai hyn fod trwy brosiectau celf, dehongli newydd a chreadigol, teithiau cerdded rhithiol, cyrsiau dysgu ar-lein, mentrau lles a llawer mwy.
Mae derbynwyr y grantiau yn cael eu dewis gan banel Cronfa Gymunedol y Carneddau. Mae’r panel yma’n cynnwys gwirfoddolwyr sy’n byw yn yr ardal sydd â diddordeb mewn cyfrannu i amcanion y cynllun, yn ogystal â chynrychiolwyr o Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau.